Mae Eglwys Dduw fel dinas wych
← Rhof fawrglod iti, fy Nuw Iôn | Dilynaf fy Mugail drwy f'oes gan Benjamin Francis |
Duw tyrd a'th saint o dan y ne' → |
1 MAE Eglwys Dduw fel dinas wych,
Yn deg i edrych arni:
Ei sail sydd berl odidog werth,
A'i mur o brydferth feini.
2 Llawenydd yr holl ddaear hon
Yw mynydd Seion sanctaidd;
Preswylfa annwyl Brenin nef
Yw Salem efengylaidd.
3 Gwyn fyd y dinasyddion sydd
Yn rhodio'n rhydd ar hyd-ddi;
Y nefol fraint i minnau rho,
O! Dduw, i drigo ynddi.
—Benjamin Francis