Mae arnaf eisiau sêl
← Fy ngweddi, dos i'r nef | Mae arnaf eisiau sêl gan Dafydd Jones o Gaeo |
Pererin wy'n y byd → |
440[1] Awyddfryd y Cristion...
M. B. D.
MAE arnaf eisiau sêl
I'm cymell at dy waith,
Ac nid rhag ofn y gosb a ddêl,
Nac am y wobor chwaith;
Ond gwir ddymuniad llawn
Dyrchafu cyfiawn glod
Am iti wrthyf drugarhau,
Ac edrych arna'i 'rioed.
Dafydd Jones o Gaeo
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 440, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930