Mae cystudd rhy brudd i'm bron

Mae cystudd rhy brudd i'm bron

gan Goronwy Owen

Mae cystudd rhy brudd i'm bron - 'rhyd f' wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!

Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynnes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liwser (ni thal sôn:)
Oedd fwyn llais, adfain ei llun,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!
Ymddifad ei thad a thwn
Archoll yn ei friwdoll fron,
Ynghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

Er pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl,
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth yw y galon
Erddi ac am dani'n donn,
A saeth yw son,
Eneth union.
Am anwyl eiriau mwynion - a ddywaid,
A'i heiddil gannaid ddwylo gwynnion.

Yn iach, f' ennaid, hoeuwych fanon,
Neli, 'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach lon - f' angyles,
Gorphwys ym mynwes monwent Walton.
Nes hwnt dy gynnull y saint gwynnion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f' enaid, deg euaid goron - dithau,
A lle yngolau llu angylion.