Mae enw Crist i bawb o'r saint

Mae enw Crist i bawb o'r saint

gan James Hughes (Iago Trichrug)

123[1] Enw Grasol Iesu.
M. S.



1 MAE enw Crist i bawb o'r saint
Fel ennaint tywalltedig,
Ac yn adfywiol iawn ei rin
I'r enaid blin lluddedig.

2 Pan fyddo f'enaid yn y llwch,
A thwllwch fel y fagddu,
Mae dawn a nerth i'm dwyn yn ôl
Yn enw grasol Iesu.

3 Gobeithiwch ynddo, bawb o'r saint,
Er cymaint yw eich gofid,
Gan wybod bod eich Priod gwiw
Yn ffyddlon i'w addewid.

—James Hughes (Iago Trichrug)

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 123, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930