Mae tywyll anial nos

Llais hyfryd rhad ras sy'n gweiddi, Dihangfa Mae tywyll anial nos

gan William Williams, Pantycelyn

Tydi, fy Arglwydd, yw fy rhan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

48[1] Anfarwol Fywyd lle bo Duw.
M. B. D.

1 MAE tywyll anial nos,
Peryglon o bob rhyw,
Holl ofnau'r bedd, pob meddwl gwan,
Yn ffoi o'r fan bo 'Nuw:
Ond tegwch dwyfol clir,
A chariad pur a hedd,
Gaiff fod yn wleddoedd pur di-drai
I'r rhai sy'n gweld ei wedd.

2 Lle byddych Di, fy Nuw,
Anfarwol fywyd sy,
Yn tarddu, megis dŵr o'r graig,
I'r lan i'r nefoedd fry:
Rhyw wawr ddisgleirwen sydd
Yn twnnu ohono Ef,
Yn arwain, trwy bob ffos a nant,
Holl ffyddlon blant y nef.


3. Ffarwél, chwi haul a lloer,
Ffarwél, chwi sêr y ne';
Mae presenoldeb pur fy Nuw
Yn well yn llanw'r lleol
Rhyw faith dragwyddol ddydd,
Goleuni sydd yn fwy,
Yw'r hwn a ddaw oddi wrth ei wedd,
Na'u holl ddisgleirdeb hwy.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 48, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930