Marunad Madawc fil Maredut

gan Cynddelw

Kywarchaw im ri rad wobeith
Kywarchaw kywercheise canweith
Y prowi prydv opriwieth
Eurgert ym argluit kedymteith
Y cvinav madauc metweith
Y alar ae alon ympob ieith
Dor yscor iscvid canhimteith
Tarian in aerwan in evrweith
Turuw gruc yg gotuc goteith
Tariw escar y iscuid in dileith
Rwy mirt kyrt kertorion wobeith
Rut dilut diletyw kedimteith
Ry gelwid madauc kin noe leith
Ruid galon y vogion diffeith
Rvit attaw attep vygobeith
Rit wisscoet wessgvin canhimteith
Rut on gir Bran vab llir lledieith
Ruit y clod includav anreith
Rut woauc vaon ny oleith
Rad wastad gwistlon canhimteith
Llawin aryrad ig kad ig cvnlleith
Llav escud dan iscvd calchwreith
Llev powis peues diobeith
Haul owin gur ny minn mabweith
Hvil yscvn yscvid pedeirieith
Hael madauc veuder anhyweith
Can deryv darfv am oeleith
Can daeraud darw kedymteith
Oet beirtcar bart clvm di ledieith
Oet cadarn agor dywinmor diffeith
Oet hir y truited oed hyged higar
Oet llawar guyar oe kywarweith
Oet buelin blas gwanas gwadreith
Oet eurllev o aer llin kadieith
Oet diwarn kadarn kedymteith unbin
Oet dirn in heirn haearn y talheith
Ae diwet yspo canbv y leith
Ydiwin y cam kymeint y affeith
Yg goleuder seint ig goleudeith
Yg goleuad rad ridid perfeith