Mis Gorffennaf

gan Robin Llwyd ab Owain

Colli Cariad
Cyhoeddwyd yn gyntaf yn Barn, Mawrth 1978. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi i drwydded hawlfraint agored yn Ebrill 2020.


Beiro a'i hun a bair ynof
Ei angau e' yw fy nghof.
Yn hysb ei waed er cryn sbel
A diau y bydd dawel
Ei hen gorff tra bo'n gorffwys
O bibo can ar bob cwys.

Heb hwn na dim, heb bin dur
A heb hudol deipiadur;
A'r ddoe - diawcs! Ni roddwyd im
Y banda - rwyf heb undim!
Dyflwydd fy mhensel diflas
Canmlwydd yw'r hen lechen las!

Hwn fu fy nghledd dros fy ngwlad -
Un ddeufin. Rwyf amddifad,
Rwyf unig heb arf heno,
Gwywo wnaf heb ei gan o:
A'i inc chwim, ei waed a chig
Y bol ystwyth o blastig.

Mor frau yw ein dyddiau dwys!
Fy mhrydydd sy 'mharadwys;
A Duw'n creu ei farwnad o -
Marwnad bur, marwnad beiro.