Marwnad Cunedda
gan y "Ffug-Daliesin"
- Mydwyf taliessin deryd gwawt godolaf vedyd.
- Bedyd rwyd rifedeu eidolyd.
- kyfrwnc allt ac allt ac echwyd
- Ergrynawr cunedaf creisseryd.
- ygkaer weir achaer liwelyd.
- Ergrynawt kyfatwt kyfergyr.
- kyfanwanec tan tramyr ton.
- llupawt glew ygilyd.
- kan kafas y whel uch eluyd.
- mal vcheneit gwynt wrth onwyd.
- kefynderchyn ygwn ygyfyl kyfachetwyn achoelyn kerenhyd.
- Gwiscant veird kywrein kanonhyd.
- marw cunedaf agwynaf agwynit.
- Cwynitor tewdor tewdum diarchar.
- Dychyfal dychyfun dyfynveis
- dyfyngleis dychyfun.
- Ymadrawd cwdwdawd caletlwm.
- kaletach wrth elyn noc ascwrn.
- ys kynyal cunedaf kyn kywys athytwet.
- ywyneb a gatwet kanweith cyn bu lleith yndorglwyt
- Dychludent wyr bryneich ympymlwyt.
- Ef canet racyofyn ae arswyt oergerdet.
- kyn bu dayr dogyn ydwet.
- heit haual am wydwal gwnebrwyt.
- gweinaw gwaeth llyfred noc adwyt.
- Adoet hun dimyaw agwynaf amlys am grys cynedaf
- Am ryaflaw hallt am hydyruer mor.
- Am breid afwrn aballaf.
- gwawt veird aogon aogaf.
- Ac ereill arefon arifaf.
- Ryfedawr yn erulawd
- Anaw cant gorwyd kyn kymun cuneda.
- Rymafei biw blith yrhaf.
- Rymafei edystrawt ygayaf.
- Rymafei win gloyw ac olew.
- Rymafei torof keith rac vn trew.
- Ef dyfal ogressur o gyflew gweladur.
- Pennadur pryt llew lludwy uedei gywlat rac mab edern kyn edyrn anaelew.
- Ef dywal diarchar diedig.
- Am ryfreu agheu dychyfyg.
- Ef goborthi aes ymanregorawl gwir gwrawl oed y vnbyn.
- Dymhun achyfatcun athal gwin kamda.
- diua hun o goelig.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin (Un o sawl cerdd a gyfansoddwyd yn ddiweddarach na chyfnod Taliesin ac a briodolir iddo yn y llawysgrif honno.)