- Dyhedd deon diechir by[g]eledd
- Rhiau a Rhirid a Rhiasedd
- a Rhygywarch lary lyw eirassedd
- ef cuiniw ini uuif im derwin fedd:
- o leas Cynddylan yn ei faured
- Maured gymined a feddyliais
- myned y fenai cyn nim bai fais
- carafi am eneirch o dir kemeis
- gwerling dogfeiling Cadelling trais
- Ef cuiniw ini uuyf im derw llednais
- o leas cynddylan colled annofais
- Maured gymined ei feddyliaw
- myned i fenai cyn nim bai naw
- carafi am eneirch o Aberffraw
- gwerling dogfeiling Cadelling ffrew
- Ef cuinif ini uuyf im derwin taw
- o leas Cynddylan a'i luyddaw
- Maured gymined gwin waretawg
- wyf coddedig wen hen hiraethawg
- collais pan amuith alaf penawg
- gwr dewr diachor diarbedawg
- cyrchai drais tra Thren tir trahawg
- ef cuinif ini uuyf yn ddaear fodawg
- o leas Cynddylan clod Garadawg
- Maured gymined mor fu da fawd
- a gafas Cynddylan cynrhan cyffrawd
- saith gant rhiallu in y speidiawd
- pan fynnwys mab pyd mor fu parawd
- ny darfu yn neithawr ni bu priawd
- gan dduw py amgen plwyf py du daearawd
- ef cuinif ini uuyf in erv vetrawd
- o leas Cynddylan clod addwyndawd
- Maured gymined mor wyf gnodaw
- pob pysg a milyn yd fydd teccaw
- i drais a gollais gwir echassaw
- Rhiau Rhirid a Rhiadaw
- a rhygyfarch lary lu pob eithaw
- Dyrrynt eu preiddau a doleu taw
- caith cwynynt brefynt grydynt alaw
- ef cuinif ini uuyf i erv penylaw
- o leas Cynddylan clod pob eithaw
- Maured gymined a weli di hyn
- yd lysg fynghalon fal ettewyn
- hoffais mewredd eu gwyr ai gwragedd
- ni ellynt fyn nwyn brodir am buiad gwell ban vythin
- canawon artir wras dinas degyn
- rhag Caer Luitcoed neus digonsyn
- crau y dan frain a chrai gychwyn
- briwynt calch ar gwyn feibion Cyndrwynyn
- ef cuinif ini uuyf yn nhir gwelyddyn
- o leas Cynddylan clodlawn vnbyn
- Maured gymined mawr ysgafael
- y rhag Caer Luitcoed neus dug moriael
- Pymtheccant muhyn a phum gwriael
- pedwar vgeinmeirch a seirch cychafael
- pen esgob hunob ym mhedeirael
- nis noddes myneich llyfr afael
- a gwyddws yn eu creulan o gynrhan claer
- nid engis or ffossawd brawd ar y chwaer
- Diengynt ai herchyll ffrewyll yn taer
- ef cuinif ini uuyf in erv tra gwael
- o leas Cynddylan clodrydd pob hael.
- Maured gymined mor oedd eitun
- gan fy mryd pan athreiddwn pwll ac Alun
- ir uruin y dan fy nrhaed hyd bryd cyntun
- plwde y danaf hyd ymhen fynghlun
- a chyn eithuiue yno im bro fy hun
- nid oes vn car neud adar iu warafun
- a chynim dyccer i dduw ir digfryn
- ni ddigones neb o bechawd cyhawal i mi hun