Marwnad Dafydd ap Gwilym
gan Madog Benfras
- Da ar feirdd, dewr o ŵr fu,
- Y dewisodd Duw Iesu.
- Poen bu dwys, pen bedysawd,
- Pan aerth â gwawr pennaeth gwawd,
- Pensaer y wengaer wingerdd,
- Pennaeth penceirddiaeth, paun cerdd,
- Porthloedd gwawd, parthlwydd gwiwder,
- Parlmant clod a moliant clêr,
- Pensarff aer, pensaer y ffawd,
- Penselwayw, paun inscilwawd,
- Pergyn ei dudded purgoch,
- Perllan cerdd, pârllinon coch,
- Pentref cerdd, pen trofa cad,
- Pantri cur, puntur cariad,
- Pendig y glod penigamp,
- Pennod a chompod a champ,
- Penial cerdd dyfal dafawd,
- Pen ar gwŷr, pannwr gwawd.
- Gwiw fu ef, gwae fi a wn
- O himych, gwych ni’m gweheirdd,
- O hiraeth am bennaeth beirdd.
- Maer y serch am aur a sôn,
- Mawr annudd, clod morynion,
- Mawlair cerdd, milwr a’i cant,
- Melin y glod a’r moliant,
- Mawr ar fy ngrudd, llowrudd llif,
- Mesur deigr, mawr ŵr digruf,
- Mal un arial Anerien,
- Mold gwawd heal, am lid y gwin.
- Ys gwag yr haf am Ddafydd,
- Ysgwir gwawd, ysgwier gwŷdd.
- Da athro beirdd, dieithrach
- No dyn a fu, a Duw’n fach.
- Och na bai hir, goetir ged,
- Oes Dafydd, eos Dyfed.
- Rhoes broses fal Taliesin,
- Rhol o wawd, rhy hael o win.
- Rhwyf o hoed, ni ryfu hen,
- Rhaid yw, yn ôl rhwyd awen,
- Adardy awdl, fardd gwawdlwydd,
- Ado’r gerdd fal yn dir gŵydd,
- O ganmol serch ugeinmerch
- Yn dir sied y deryw serch.
- Digrif oedd, deigr a foddes
- Deutu fy ngrudd, neu’m lludd lles.
- Dioer, serchocaf fu Dafydd,
- Dyn o’r gwŷr dan oror gwŷdd.
- Dadlwawd awdl, didlawd ydoedd,
- Dioer o baun, dihaereb oedd.
- Dwyn naf nod Duw nef a wnaeth,
- Da lawrodd cerdd daelwriaeth,
- Dafydd degan rhianedd,
- Dyfna’ clod, daufinog gledd.
- Dafydd, ei ddydd a ddeddyw,
- Doctor clod, dictor a’i clyw,
- Da hebog doeth, coeth o’m cof,
- Deheubarth, nid â hebof.