Marwnad Gruffudd ap Cynan

gan Meilyr Brydydd

Reen nef mor ryuet y ryuetawd,
rieu rwyf eluyt ryt y volawd,
rex radeu urno ryn bo ny gardawd,
ree ryterriuam yn rann drindawd.
Pan dyuo douyt yn dyt pennawd,
peryf par wrthuynn yn erbyn brawd,
pan gaffwyf y gan glein glan gyflogawd,
kan dydaw agheu aghen drallawd.
Ac eil dra drymhaf tregi metwawd,
llys lleuer ynys gwrvs goruyndawd,
pe dawant anant na frydani wawd,
y eduyn terrwyn toryf y vorawd.
Nyd aduarn kerteu nyd geu daerawd,
ny due neb keinyad nac o honawd,
yn awen gyfrif kenif draethwawd,
y ri a roei heb esgussawd.
Gruffut glew dywal ar orfetawd,
gwir gwae y werin, gwin eu gwirawd,
gwr a lywei lu kyn bu breuawd,
bleit bytin orthew yn derw blyghawd.
Yr perygvl preitwyr peri ffossawd,
pasgadur kynrein, prydein briawd,
handoet gad gyffro o anarawd,
ac eil o run hir ryuel durawd.
Gwanei yg kynhor eissor medrawd,
mal vryen urten ae amgyffrawd,
gweled y benn llu ny bu deuawd,
mir cadeu neuateu o ystyllawd.
Kyn myned mab kynan ydan dywawd,
keffid yny gyntet uet a bragawd,
o olo gruffut yn rut uedrawd,
kwynym dragon dwfyn dygyn diwyrnawd.
Ergyr waew brwydrin kyn rewin rawd,
rynn ruthrei doruoet oet rybarawd,
ry gated ruuein ree aduwyndawd,
ny vynnei gamhwr garu nebawd.
Y gymeryeid lyw dotyw dyrnawd,
diua dreic wron weinon wasgawd,
gogwypo y duw oe diwetawd,
nad el yn rygoll oe holl pechawd.


O gyfranc brennhinet brein votawc,
pan vei gyfluyt o wyr gwychawc,
atgoryn deyrnet yn wenytawc,
pob pymp pob pedwar yn war weinytawc.
Gwylynt golithrynt yn ogelawc,
rac unmab kynan y kyndynnyawc,
yr aryneic lew law diueryawc,
ny lut y erlid yn odidawc.
Keinyad cas agarw syberw serchawc,
ked galwed unyc nyd oet ofynawc,
ar bob rei reidyei yn eurodawc,
rac bytin emreis dreis drahawc.
Cadeu didudyt cletyf durawc,
kwl klywed kystut ar grut mynawc,
can gertu kyhoet oet arterchawc,
o ysgewin barth hyd borth eurawc.
Dybu brenhin lloegyr yn lluytawc,
ked doeth ef nyd aeth yn warthegawc,
ni yn eryri yn reiawc,
ny thorres y bawr a wu breityawc.
Gruffut grym kyhoet nyd oet gutyawc,
a diffyrth y wyr yn orwythawc,
kyuamuc y wir a mil marchawc,
clywed y gyma yd tra bannawc.
Brennhin brwydyr efnys gwrys gwellynnyawc
penn rieu pareu anoleithyawc,
perchen peuuer ystre or re wygawc,
modrydaf kymry erhi uarchawc.
Ar wyneb neuat yn amniuerawc,
nerth rodri rei rywass-garawc,
ken myned mur ked yn dawedawc.
dym guc neum goruc yn oludawc.
Yueis gan deyrn o gyrn eurawc,
aruot uaet ueityad aghad weinyawc,
yn llys aberfraw yr faw fodiawc,
bum o du gwledic yn lleithiawc.
Eilweith yt eithum yn negessawc,
o leuuer lliw camawn yawn dywyssawc,
bu uet eur gylchwy yn vodrwyawc,
torressid gormes yn llvghessawc.
Gwedy tonneu gwyrt gorewynawc,
dyforthynt y seirch meirch rygygawc
anu neud gweryd yn warweidyawc,
gwae a ymdired wrth uyd bradawc.
Ny wyr kychwil ueirt kyhusseityawc,
tymp pan dreing terwyn toryf difreityawc,
kwynif ny bytif diebreidyawc,
delw yt amgyrwyf bwyf kynheilwawc.
Crist kyflawn anwyd boed trugarawc,
wrth ruffut gwynet gwylet vodawc,
yg gwlad nef boed ef yn drei tadawc.
naty eneid hael yn waeletawc.


Hael a ri a renni yny ryhyt
ny chronnei na seirch na meirch gweilyt,
gwladoet ouyneic dreic gwyndodyt,
gwr a rotei gad kyn dybu y dyt.
Gruffut grym angor eisor mechyt.
marchogei esgar ar elorwyt,
arbennic kenueint kereint weinyt,
kynreinon ysgwyt ysgororyt.
Yny wu weryt y obennyt,
ny bytei diwyth y lwyth osswyt,
amuc ae dragon ut mon meindyt,
men yd las trahaearn yg karn wynyt.
Y deu dywyssawc deifnyawc dedwyt,
brenhinet powys ae gwenhwyssyt,
goreu gweith gwynnyeith ae gyweithyt,
pan gedwis y wyneb heb gewilyt.
Kutynt kyfnouant cant kyuoedyt,
kyngen gymynid gwytuid wryt,
taer tertyn asseu taleu treuyt,
torri calch doed tiret trenyt.
Am drefan dryffwn rac eiryolyt,
tyruei rac llafneu penneu peithwyt,
keith kwynynt kertynt gan eluyt,
knoynt urein wriwgig o lid llawryt.
Llenwyd dwyreawr y uawr uaessyt,
delid meirch amliw a biw eluyt,
gwern gwygid gwanei bawb yny gilit,
gwaed gwyr gouerei gwyrei onnwyt.
Ar meint a dyfu ar eu edryt,
a duc oe gadeu chwetyleu newyt,
cad rac castell march mawr eddyt,
a chadeu kynwryc wyrennyc wlyt.
Y gad gyghyweir y meiryonnyt,
arglwyt glew gadarn haearn dyuyt,
ny notes mawret eu merweryt,
y gweith y waederw chwerw chwelidyt.
Cad geredigyawn gyfyawn gywyt,
crenynt wraget gwetw goddiwedyt,
cad yn iwerton dirion dreuyt,
gan ae canwu ny bu ueryt.
Cad rac tal prydein prennyal uechyt,
gruffut a orwu rac llu gwychryt,
cad rac castell mon mor digeryt,
dybu oe gyffred gwared bedyt.
Dewisseis inheu nyd geu defnyt,
ar emys y lys ae luossyt,
as rotwy vy ren rann dragywyt,
yg gwerth a rotes ar lies prydyt.
Ny wtant vanueirt ny mawr gynnyt,
pwy a ennillo or do yssyt,
edewis eurwas clas kymreyt,
canawon mordei mynogi ryt.
Dydwyreo ywein eigyl didutyt,
ennillawd llyw ystre lie igilyt,
gwelant glyw powys y bell oessyt,
a hawt y ergryd hyd lew diuyt.
Kadwaladyr gedawl o gynuedyt,
kynteic ar gann calan weinyt,
gnawd gwarchan a gan eu hawenyt,
yn aruod adwy wy a oruyt.
Gruffut grym wryawr oe wawr ueuyt,
nym ditoles nu ny bu gelwyt,
yny uwyf gynneuin a derwin wyt,
ny thorraf am car vy gerenhyt.


Kerennhyt y ssyt herwyt trined,
y gristyawn ysyawn y gyrraeted,
kreuyt y creawdyr y gyfriued,
y ruffut gloyw ut ae kut tytwed.
Hyd nas gwnel pechawd pell eilywed,
pedrydawc deyrn uch kyrn coned,
kenif nys dygif yn diabred,
marwnad mur tewdor uor dylyed.
Kedernyd rewyt kyn noe vyned,
ergrynei vym pwyll e bell gerded,
a dyuo mab kynan mawr amgyffred,
kan grist keinuorawd gwlad ogoned.
Pan gaffo penn gwyr peuer ymdired,
gan egylyon voes nym oes neued,
yn wndawd drindawd drwy rybuched,
gan glein gloyw adef yn nef drefred.