Marwnad Meibion Cedifor
(Ailgyfeiriad o Marwnad Hywel ab Owain Gwynedd)
gan Peryf ap Cedifor
- Tra fuam yn saith, trisaith — ni'n beiddiai,
- Ni'n ciliai cyn ein llaith,
- Nid oes, ysywaeth, o'r saith
- Namyn tri trin ddiolaith.
- Seithwyr y buam, dinam, — digythrudd,
- Digyfludd eu cyflam,
- Seithwyr ffyrf ffo ddiadlam,
- Saith gynt ni gymerynt gam.
- Can eddyw Hywel, hwyl ddi-oddef — cad
- (Cydfuam gyd ag ef),
- Handym oll goll gyfaddef,
- Handid tegach teulu nef.
- Meibion Cedifor, cyd ehelaeth — blant,
- Yn y pant uch Pentraeth,
- Buant brwysgion, braisg arfaeth,
- Buant briw ger eu brawd-faeth.
- Yn y berwid brad Brython — anghristiawn
- O Gristin a’i meibion,
- Ni bo dyn ym myw ym Môn
- O’r Brochfaeliaid brychfoelion.
- Er a ddêl o dda o ddala tir — present
- Preswylfod anghywir,
- Â gwayw, gwae Ddafydd enwir!
- Gwân gwalch rhyfel, Hywel hir.