Marwnad Lleucu Llwyd
gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen
- Llyma haf llwm i hoywfardd,
- a llyma fyd llwm i fardd.
- E'm hybeiliawdd, gawdd gyfoed,
- am fy newis mis o'm oed.
- Nid oes yng Ngwynedd heddiw
- na lloer, na llewych, na lliw,
- er pan rodded, trwydded trwch,
- dan lawr dygn dyn loer degwch.
- Y ferch wen o'r dderw brennol,
- arfaeth ddig yw'r fau i'th ôl.
- Cain ei llun, cannwyll Wynedd,
- cyd bych o fewn caead bedd,
- f'enaid, cyfod i fyny,
- egor y ddaearddor ddu,
- gwrthod wely tywod hir,
- a gwrtheb f'wyneb, feinir.
- Mae yman, hoedran hydraul,
- uwch dy fedd, huanwedd haul,
- ŵr prudd ei wyneb hebod,
- Llywelyn Goch, gloch dy glod.
- Udfardd yn rhodio adfyd
- ydwyf, gweinidog nwyf gwŷd.
- Myfi, fun fwyfwy fonedd,
- echdoe a fûm uwch dy fedd
- yn gollwng deigr llideigrbraff
- ar hyd yr wyneb yn rhaff.
- Tithau, harddlun y fun fud,
- o'r tewbwll ni'm atebud.
- Tawedog ddwysog ddiserch,
- ti addawsud, y fud ferch,
- fwyn dy sud, fando sidan,
- f'aros, y ddyn loywdlos lân,
- oni ddelwn, gwn y gwir,
- ardwy hydr, o'r deheudir.
- Ni chiglef, sythlef seithlud,
- air ond y gwir, feinir fud,
- iawndwf rhianedd Indeg,
- onid hyn, o'th enau teg.
- Trais mawr, ac ni'm dawr am dŷ,
- torraist amod, trist ymy.
- Tydi sydd, mau gywydd gau,
- ar y gwir, rywiog eiriau,
- minnau sydd, ieithrydd athrist,
- ar gelwydd tragywydd trist.
- Celwyddog wyf, cul weddi,
- celwyddlais a soniais i.
- Mi af o Wynedd heddiw,
- ni'm dawr pa fan, loywgan liw;
- fy nyn wyrennig ddigawn,
- pe bait fyw, myn Duw, nid awn.
- Pa le caf, ni'm doraf, dioer,
- dy weled, wendew wiwloer,
- ar fynydd, sathr Ofydd serch,
- Olifer, yr oleuferch?
- Llwyr y diheuraist fy lle,
- Lleucu, deg waneg wiwne,
- riain wiwgain oleugaen,
- rhy gysgadur 'ny mur maen.
- Cyfod i orffen cyfedd
- i edrych a fynnych fedd,
- at dy fardd, ni chwardd ychwaith
- erot dalm, euraid dalaith.
- Dyred, ffion ei deurudd,
- i fyny o'r pridd-dŷ prudd.
- Anial yw ôl camoleg,
- nid rhaid twyll, fy neudroed teg,
- yn bwhwman rhag annwyd
- ynghylch dy dŷ, Lleucu Llwyd.
- A genais, lugorn Gwynedd,
- o eiriau gwawd, eiry ei gwedd,
- llef drioch, llaw fodrwyaur,
- Lleucu, moliant fu it, f'aur;
- â'r genau hwn, gwn ganmawl,
- a ganwyf, tra fwyf, o fawl,
- f'enaid, hoen geirw afonydd,
- fy nghariad, dy farwnad fydd.
- Cymhennaidd groyw loyw Leucu,
- cymyn f'anwylddyn fun fu:
- ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
- i Dduw Dad, addewid iawn;
- a'i meingorff, eiliw mangant,
- meinir i gysegrdir sant;
- dyn pellgŵyn, doniau peillgalch,
- a da byd i'r gŵr du balch;
- a'i hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
- i minnau a gymannawdd.
- Lleddf ddeddf ddeuddawn ogyfuwch,
- Lleucu dlos, lliw cawod luwch,
- pridd a main, glain galarchwerw,
- a gudd ei ddeurudd, a derw.
- Gwae fi drymed y gweryd
- a'r pridd ar feistres y pryd!
- Gwae fi fod arch i'th warchae!
- A thŷ main rhof a thi mae,
- a chôr eglwys a chreiglen
- a phwys o bridd a phais bren.
- Gwae fi'r ferch wen o Bennal,
- breuddwyd dig briddo dy dâl!
- Clo dur derw, galarchwerw gael,
- a daear, deg dy dwyael,
- a thromgad ddôr, a thrymgae,
- a llawr maes rhof a'r lliw mae,
- a chlyd fur, a chlo dur du,
- a chlicied; yn iach, Leucu!