Marwnad Llywelyn ap Gruffudd
- Oer gallon dan vron o vraw allwynin
- am vrenhin derwin dor Aberffraw.
- Eur dilyf yn a elit oe law,
- eur daleith oed deilwng idaw.
- Eurgryn eur deyrn nym daw llewenyd
- Llywelyn, nyt ryd ym rwyd wisgaw.
- Gwae vi am arglwyd, gwalch di waratwyd,
- gwae vi or aflwyd y dramgwydaw.
- Gwae vi or gollet, gwae vi or dynghet,
- gwae vi or clywet vot clwyf arnaw.
- Gwersyll Katwaladyr, gwaessaf llif daradyr,
- gwas rud y baladyr, balawc eur llaw,
- gwascarawd alaf, gwascawd bop gaeaf
- gwisgoed ymdanaf y ymdanaw.
- Bucheslaw arglwyd, nyn llwyd yn llaw;
- buched dragywyd a dric iadw.
- Ys meu lit wrth Seis am vyn treisiaw;
- ys meu rac angeu angen gwynaw;
- ys meu gan deunyd ymdiuanw a Duw
- am edewis heddaw.
- Ys meu ganmawl heb dawl, heb daw,
- ys meu vyth bellach y veith bwyllaw.
- Ys meu ym dyonedyl amdanaw alar;
- canys meu alar ys meu wylaw.
- Arglwyd a golleis, gallaf hir vraw;
- arglwyd teyrnblas a las o law.
- Arglwyd kywir gwyr gwarandaw arnaf
- Uchet y kwynaf: och or kwynaw!
- Arglwyd llywd kyn llad y deunaw,
- Arglwyd llary neut llawr y ystaw.
- Arglwyd glew val llew yn llysyaw eluyd,
- arglwyd aflonyd y alunyaw.
- Arglwyd kanatlwyd kynn adaw ewreis
- ny lyfasei Seis y ogleissyaw.
- Arglwyd neut maendo man daw Kymry,
- or llin a dyly daly Aberffraw.
- Arglwyd Grist mor wyf drist drostaw!
- arglwyd gwir gwaret y ganthaw.
- O gledyfawt trwm tramgwyd arnaw,
- o gledyfeu hir yn y diriaw,
- o glwyd am vy rwyfyssy mrwyfaw,
- o glywet lludet llyw Bodvaeaw.
- Kwbyl o was a las o law ysgereint,
- kwbyl vreint y hyneint oed ohonaw;
- kannwyll teyrrned, kadarnllew Gwyned,
- kadeir arnyded rreit oed wrthaw.
- O leith Prydein veith, kynllwith kanllaw,
- o lad llew Nancoel, lluryc Nancaw.
- Llawer deigyr hylithyr yn hwylaw ar rud,
- llawer ystlys rud a rwyc araw;
- llawer gwaet am draet wedy ymdreidyaw,
- llawer gweddw a gwaed y amdanaw,
- llawer medwl trwn yn tonnwyaw,
- llawer mab heb dat gwedy y adaw,
- llawer henderf vreith gwedy llwybyr fodeith
- a llawer diffeith drwy arneith draw;
- llawer llef druan ual ban vu Gamlan,
- llawer deigyr dros rann gwedyr greinyaw.
- O leas gwanas gwanar eurllaw,
- o leith Llywelyn cof dyn nym daw.
- Oeruelawc callon dan vronn o vraw,
- rewyd val crinwyd yssys crinaw.
- Pony welwch chwi hynt y gwynt ar glaw?
- Pony welwch chwi r drei yn ymdaraw?
- Pony welwch chwi r mor yn merwinaw yr tir?
- Pony welwch chwi r gwir yn ymgyweiaw?
- Pony welwch chwi r heul yn hwylaw r awyr?
- Pony welwch chwi r syr wedyr syrthiaw?
- Pony chredwch chwi y Duw, dynyadon ynvyt?
- Pony welwch chwi r byt wdyr dydyaw?
- Och yt attat ti Duw na daw mor tros dir!
- Pas beth yn gedir y ohiriaw?
- Nyt oes le y kyrcher rac carchar braw,
- nyt oes le y trigyer:och or trigyaw!
- Nyt oes na chyngor, na chlo nac egor
- Unfford y escor brwyn gyngor braw.
- Pob teulu teilwng oed idaw,
- pob kedwyr kedwynt adanaw.
- Pob dengyn a dyngynt oe law,
- pob gwledic, pob gwalt oed eidaw.
- Pob cantref, pob tref ynt yn treidyaw,
- pob tylwyth, pob llwyth yssyn llithraw.
- Pob gwann, pob kadarn kadwet oe law,
- pob mab yn y grut yssyn udaw.
- Bychan lles oed ym am vyn twyllaw,
- gadel penn arnaf heb penn araw.
- Penn pan las ny oed lessach peidyaw;
- penn pas las oedd lessach peidyaw;
- penn milwr, penn molyant rac llaw,
- penn dragon, penn dreic oed arnaw;
- penn Llywelyn dec dygyn a vraw byt
- bot pawl heaarn trwydaw;
- penn varglwyd, poen dygyngwyd am daw,
- pan veneit heb vanac aranw;
- penn a vu berchen a barch naw canwlat
- a naw canwled idaw;
- penn teyrn, heyrn heeit oe law,
- penn teyrn, walch balch bwlch y geifnaw;
- penn teyrneid vleid vlaengar ganthaw,
- penn teyrnef, nef y nawd arnaw!
- Gwyndeyrn orthyrn wrthaw gwendoryf
- Gorof gorvynt hynt hyt Lydaw.
- Gwir vreinyawl vrenhin Aberffraw,
- Gwenwlat nef boet adef idaw!