Marwnad Tudur Aled
- Bwriwyd unbardd, brad enbyd,
- Bwriai Dduw ben beirdd y byd!
- Brad gwawd buredig ydoedd,
- Bwrw niwl ar bêr awen oedd,
- Breuddwyd a'n gwnaeth yn bruddion,
- Bwrw cerdd bêr, brig, gwraidd a bôn;
- Diwraidd cerdd, dau arwydd cur,
- Dirym dadl, draw, am Dudur.
- Gyrrodd rhew o'i gwraidd y rhawg
- Gardd lysau'r gerdd luosawg,
- Os gwir rhoi - nid ysgar rhew -
- Eos Aled is olew;
- Trist yw'r cwyn tros awdur cerdd,
- Trwstan-gwymp trawst awen-gerdd.
- Ymroi i Dduw a Mair 'ddoedd,
- Wedi'r sidan drwsiadoedd;
- I ddofydd yr addefwyd,
- Ei ddewis glôg oedd wisg lwyd;
- Cryf oedd o serch crefydd saint,
- Crefyddfrawd Côr ufuddfreint;
- Ffydd y saint, hoff oedd ei swydd,
- Ffrawnsys a hoffai'r unswydd;
- Buasai well, 'n y bais hon,
- Bwrw deuddeg o brydyddion;
- Bid y brud a'r byd heb wres,
- Brud, hyd dydd brawd y toddes;
- Braidd, o gerdd, bereiddio gair,
- Braidd, gwedi bardd y gadair;
- I gadw rhoer ei gadair hardd
- Ar feddfaen yr ufuddfardd,
- A boed i'r un o'r byd rodd
- A fai'n well - ef a'i 'nillodd!
- Ni bu roddion bereiddiach,
- Nag awen ben Gwion Bach;
- Perach gwawd, parch, ag odiaeth,
- Petai'n fyw poet i nef aeth;
- Och dristed merch dros dad mawl,
- O chuddiwyd ei chywyddawl!
- Gwae ddyn wych, gwaeddwn uchod,
- Gwae, ni chlyw ganu ei chlod;
- Mae gweiddi am gywyddwr
- Merch a gwalch a march a gŵr;
- Och, dorri braich draw a bron
- Angel annwyl englynion!
- Bywiog englyn heb gonglau,
- Berw gân fraisg, brig awen frau;
- Am air hoyw, pwy mor rhywiog
- Heb wyrth gras aberth y Grôg?
- Eilio'r iaith fal Iolo'r oedd,
- Eiliad awdl Aled ydoedd.
- Awen ddofn o'r un ddefnydd
- A'r gawod fêl ar goed fydd;
- Awen frau, i nef yr aeth,
- Wrth freuder, werthfawr odiaeth;
- Cerdd ysgwîr, croywddysg araith,
- Clod y gŵr, clywed ei gwaith;
- Ef âi, o châi, afiach hen
- Ei chlywed, yn iach lawen.
- Didolcwaith gyfiaith a gad
- Deutu genau datgeiniad -
- Fal gwin oll neu fêl y gwnai
- Lais mwngwl Eos Menai.
- Mowrddysg oedd am urddas gwawd,
- Mwy fu irder myfyrdawd,
- I'r ddwy, dysgai'r ddau degwch -
- Y mêl a'r cwyr aml i'r cwch;
- Mab ydoedd am wybodaeth,
- Merddin Wyllt, marw ddoe a wnaeth.
- Yma'n y byd, mwy, ni bydd
- Ail Dudur Aled wawdydd;
- Ethrylith aeth ar elawr,
- A therm oes yr athro mawr;
- Ni wyddwn, o iawn addysg,
- Nes ei ddwyn, eisieu ei ddysg;
- Ag yn ei fedd gan ei fod,
- Mae'r Beibl mawr heb ei wybod;
- Ef a wyddiad ar foddau
- Ei hun, gwell no hŷn nag iau.
- Yn iach awen, och, ieuainc!
- Yn iach farn iawn uch y fainc;
- Yn iach brigyn, awch breugerdd,
- Yn iach cael cyfrinach cerdd;
- Yn iach un ni châi einioes
- Yn iach ei ail yn eich oes;
- I ail einioes lawenach,
- I wlad nef eled, yn iach!