Marwnad i Feurig Fychan
gan Guto'r Glyn
CYWYDD MARWNAD I FEURIG FYCHAN, O NANNEU; AC ANGHARAD, EI WRAIG.
Mawr fu'r cri am y tri-hael,
Mwy fu'r cwyn am Feurig Hael.
Mae wylo lli mal y llyn,
Merwindod yw marw undyn;
Mawr yw'r cof am eiriau can,
Mawr gof Och ! Meurig Fychan:
Pleid-fab Howel oludfawr,
Penaeth y farfolaeth fawr:
Pen cenedl poen yw canu,
Pen rhaith ar Lan-fachraith fu.
Dol-gellau Nannau yn un
Diwreiddiwyd o'i dau wreiddyn
Marw ddoe mae arwydd yn,
Mawr ei glod Meurig Lwydwyn
Marw ei gymar, Angharad;
Marw gwledd y Cymry a'u gwlad
O marw y ddau mae'r oer ddig,
Ail marw Howel a Meurig.
Un urddas ynt ar ddau Sant;
Un fodd yna a fyddant.
A'm lew wythradd Moel Orthrwm;
Am loer tref mae alar trwm.
Gwae dir i gyd gwedi'r gwr,
A gwae chwanog echwynwr!
Gwae'r tlawd am gwrt a gwledd,
Gwae'r gwan dwyn gwraig o Wynedd
Plwyfol arwyddol raddau,
Plas hael mab Howel Selau.
Parth y gwr a'm portha gynt,
Parth deuddyn porth Duw iddynt !
Mae'n brudd i mi breuddwyd,
Marw Eog y llin Meurig Llwyd.
I drichant e roed achwyn,
Heb roi cas heb bery cwyn.
Ni bu rydd roi bronydd a brig,
Eithr y môr a thir Meurig.
Rhai ini yn rhoi enyd
Rhent i'r beirdd, rhoi hwynt i'r byd.
Yr aur aml a roi'r yma,
O goffr Duw a geiff aur da.
Da rhanodd Duw a rheiny,
Dau lew teg yn dal y ty.
E aeth clod a bendith cler,
Hyd y cwm elwir Cymmer.
Draw yn ddoeth drwy Wynedd aeth,
Deuryw enaid yn dirionaeth:
A chael oes hir uwchlaw Saint
A chytuno a chyd henaint
Duw a roes wr da a'i wraig
Dau un-gred dan y wengraig!
Duw ddoe aeth a dau oedd un,
Ar ddau sydd urddas iddyn'.