Marwnat Owein
gan Taliesin
- Eneit owein ap vryen.
- gobwyllit y ren oe reit.
- Reget ud ae cud tromlas.
- nyt oed vas y gywydeit.
- Iscell kerdglyt clot uawr
- escyll gawr gwaywawr llifeit.
- canycheffir kystedlyd.
- y vd llewenyd llatreit.
- Medel galon geueilat.
- eissylut y tat ae teit.
- Pan ladawd Owein fflamdwyn.
- Nyt oed uwy noc et kysceit.
- kyscit lloegyr llydan nifer
- a leuuer yn eu llygeit.
- A rei ny ffoynt hayach.
- a oedynt [hya]ch no reit.
- Owein ae cospes yn drut
- mal cnut [y]n dylut deueit.
- Gwr gwiw uch y amliw seirch.
- a rodei veirch y eircheit.
- kyt as cronyei mal calet.
- ny rannet rac y eneit.
- Eneit. O. ap vryen.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin