Mawr ei enw 'n ninas ein Duw

Mae Mawr ei enw'n ninas ein Duw yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)


Mawr ei enw 'n ninas ein Duw,
A hynod yw yr Arglwydd;
A'i drigfan ef yno y sydd
Yn mynydd ei sancteiddrwydd.


Ewch, ewch oddi amgylch Seion sail,
A'i thyrau adail rhifwch;
Ei chadarn fur a'i phlasau draw
I'r oes a ddaw mynegwch.


Cans ein Duw ni byth yw'r Duw hwn,
Hyd angau credwn ynddo;
Hyd angau hefyd hwn a fydd
Yn dragywydd i'n twyso.