Merch Ein Hamserau: Rhan 3
← Merch Ein Hamserau: Rhan 2 | Merch Ein Hamserau Rhan 3' gan Robin Llwyd ab Owain Rhan 3' |
Merch Ein Hamserau: Rhan 4 → |
Cyhoeddwyd gyntaf yn Rhestr Testunnau Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn 1991, Awst 1991. Ffynhonnell: barddoniaeth.com; gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.
Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020. |
Cymer fi, cymer fy haf, - cymer fwy,
Cymer fi drwy 'ngaeaf,
Cymer ac fe'th gymeraf:
Dywed y gwnei a dwed, 'Gwnaf!'
Dau lais ein ffidil iasol - yn uno
Am ennyd ysbeidiol
Ond tonnau gwyllt Donegal
Yn ein hasio yn oesol.
O'Donohues, dau yn un. Ein deuawd
Yn diwel dros Ddulyn
A dau lais ein mandolyn
Yn un gofer, yn gyfun.
Un nodyn o 'nhelyn i - yw Erin,
Wyt Bair y Dadeni.
Ateb, a gaf fod iti
Yn nodyn o'th delyn di?
Yn anghytgord y cordiau - mae arswyd
Amhersain... ond weithiau
Newydd yw'r harmoniau
Ddaw'n ffrwd o goluddion ffrae.
Yn dy faldod datodaf, - yn d'anwes
Dyner y meiriolaf,
Yn dy gol di y gwelaf
Eigion o wen yn dweud, 'Gwnaf!'
Un nos hir ein hamserau - ddiflannodd
Fel ennyd, bydd dithau
Yn ganiad o'm caniadau,
Bydd ganiad uniad ein dau.