Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011/Mesur
← Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011 | Mesur Addysg (Cymru) 2011 gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Yr Atodlen—Cosbau Sifil → |
Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu’r darpariaethau a ganlyn:—
1 Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
"Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr
14A Gofyniad am wregysau diogelwch ar fysiau a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr
- (1) Rhaid i gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae’n ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
- (2) Rhaid i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol sicrhau bod pob bws a ddefnyddir ar gyfer cludiant o’r fath yn un y mae gwregys diogelwch wedi ei ffitio i bob sedd deithiwr.
- (3) Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) yn cyflawni tramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
- (4) Mae’n amddiffyniad i ddangos bod y methiant i gydymffurfio ag is-adran (1) neu (2) wedi ei gyfiawnhau oherwydd amgylchiadau eithriadol.
- (5) Nid oes dim yn yr adran hon i’w ddehongli fel petai’n gosod safonau technegol ar gyfer gwneuthuriad neu gyfarpar cerbyd sy’n wahanol i’r safonau a fyddai neu a allai fod yn gymwys mewn modd arall i’r cerbyd hwnnw yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy.
- (6) Yn yr adran hon—
- ystyr “bws” yw cerbyd modur sydd wedi ei wneuthur neu wedi ei addasu i gario mwy nag wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr;
- ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol, pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed—
- (a) Deddf Seneddol;
- (b) is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Seneddol;
- (c) darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu is-ddeddfwriaeth o’r fath;
- ystyr “gwregys diogelwch” yw gwregys sydd wedi ei fwriadu ar gyfer ei wisgo gan berson mewn cerbyd ac sydd wedi ei ddylunio i atal neu leihau anafiadau i’r sawl sy’n ei wisgo os bydd damwain i’r cerbyd.”.
2 Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14A o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
{{canoli|“Diogelwch ar gludiant i ddysgwyr
14B Rhagor o ddarpariaethau ar gyfer y disgrifiadau o gerbydau y caniateir eu defnyddio yn gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach er mwyn—
- (a) ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sicrhau mai dim ond cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig a ddefnyddir yn gludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall;
- (b) ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol ddefnyddio cerbydau o ddisgrifiadau rhagnodedig yn unig;
- (c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
- (2) Caiff rheoliadau o dan baragraffau (a) a (b) o is-adran (1) ddisgrifio cerbydau drwy gyfeirio at wneuthuriad, cyfarpar neu nodweddion eraill cerbyd.”.
3 Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14C Recordio delweddau gweledol neu sain ar gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau—
- (a) ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy’n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;
- (b) darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;
- (c) darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o’r canlynol—
- (a) corff perthnasol;
- (b) person sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
- (3) Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na’i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy’n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.”
4 Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14D Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o’r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
- (a) gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i’w gynnal;
- (b) ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;
- (c) rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;
- (d) rhagnodi pa mor aml y mae’n rhaid cynnal yr asesiadau.”.
5 Hyfforddi gyrwyr
Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14E Hyfforddi gyrwyr
- (1) Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy’n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.
- (2) Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
- (3) Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.”.
6 Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr
Ar ôl adran 14E o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14F Goruchwylwyr ar gludiant i ddysgwyr
- (1) Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer goruchwylio dysgwyr sy’n defnyddio cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol.
- (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill)—
- (a) rhoi pwerau i gorff perthnasol neu osod dyletswyddau arno;
- (b) darparu ynghylch hyfforddiant i bersonau sy’n goruchwylio dysgwyr.”
7 Cosbau sifil
- (1) Ar ôl adran 14F o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
- “14G Cosbau sifil
- Mae i Atodlen A1 effaith.”.
- (2) Mae i Atodlen y Mesur hwn effaith.
8 Awdurdod gorfodi
Ar ôl adran 14G o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14H Awdurdod gorfodi
- (1) Caiff rheoliadau benodi person neu gorff (gan gynnwys Gweinidogion Cymru) i fod yn awdurdod gorfodi.
- (2) Caniateir penodi mwy nag un person neu gorff yn awdurdod gorfodi.
- (3) Caiff rheoliadau roi pwerau i awdurdod gorfodi neu osod dyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan adran 14A a chan reoliadau o dan adrannau 14B a 14C ac Atodlen A1 a chânt (ymhlith pethau eraill)—
- (a) rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i awdurdodi person (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel “arolygydd”) i arfer y pwerau yn adrannau 14I a 14J,
- (b) gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r awdurdod gorfodi, neu
- (c) darparu i’r cyfryw ddeddfiad fod yn gymwys, gyda neu heb addasiadau, at ddibenion adran 14A a rheoliadau o dan adrannau 14B a 14C, yr adran hon ac Atodlen A1.
- (4) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at awdurdod gorfodi yn gyfeiriadau at berson neu gorff a benodir o dan yr adran hon ac maent yn cynnwys person a benodir gan awdurdod gorfodi.
- (5) Yn yr adran hon mae “deddfiad” yn cynnwys—
- (a) deddfiad pryd bynnag y’i pasiwyd neu y’i gwnaed,
- (b) deddfiad a geir mewn Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
- (c) darpariaeth a geir mewn is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr isddeddfwriaeth yn Neddf Dehongli 1978 (gan gynnwys isddeddfwriaeth a wneir o dan Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).”.
9 Pŵer mynediad
Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14I Pŵer mynediad
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys i—
- (a) cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
- (b) cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn is-adran (2).
- (2) Cerbyd neu fangre sy’n dod o fewn yr is-adran hon yw—
- (a) y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
- (b) y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
- (3) Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
- (a) cadw cerbyd yn gaeth;
- (b) mynd i gerbyd neu fangre.
- (4) Ond nid yw’r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn annedd breifat.
- (5) Rhaid i arolygydd sy’n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy’n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.”.
10 Pŵer arolygu Ar ôl adran 14I o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14J Pŵer arolygu
- (1) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu yn mynd i mewn i gerbyd neu fangre o dan adran 14I—
- (a) arolygu’r cerbyd neu’r fangre;
- (b) arolygu unrhyw ddogfennau neu gofnodion sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, cymryd copïau ohonynt a mynd â hwy o’r cerbyd neu’r fangre;
- (c) arolygu unrhyw eitem arall a mynd ag ef o’r cerbyd neu’r fangre.
- (2) Mae’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys—
- (a) pŵer i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n dal dogfennau neu gofnodion a gedwir yn y cerbyd neu’r fangre neu sy’n gyfrifol am y dogfennau neu’r cofnodion hynny i’w dangos hwy, a
- (b) o ran cofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, pŵer i’w gwneud yn ofynnol dangos y cofnodion ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
- (3) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
- (a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol, neu
- (b) i gymryd copïau o’r cyfryw ddogfennau neu gofnodion neu i fynd â hwy i ffwrdd.
- (4) Mewn cysylltiad ag arolygu’r cyfryw ddogfennau, caiff arolygydd—
- (a) mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sydd yn ei dyb ef yn cael neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r dogfennau ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar cysylltiedig neu’r deunydd, a
- (b) ei gwneud yn ofynnol i berson o fewn is-adran (5) roi unrhyw gymorth rhesymol a all fod yn ofynnol at y diben hwnnw.
- (5) Mae person o fewn yr is-adran hon—
- (a) os y person hwnnw yw’r person sy’n defnyddio’r cyfrifiadur neu a’i defnyddiodd neu’r person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur ar ei ran, neu
- (b) os yw’r person hwnnw yn berson sydd â gofal y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu’n ymwneud fel arall â’u gweithrediad.
- (6) Caiff arolygydd sy’n cadw cerbyd yn gaeth neu’n mynd i gerbyd neu fangre ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau neu gymorth iddo o ran materion o fewn rheolaeth y person ag sy’n angenrheidiol er mwyn ei alluogi i arfer pwerau o dan adran 14I neu’r adran hon.
- (7) Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—
- (a) yn rhwystro arolygydd rhag arfer unrhyw bŵer o dan adran 14I neu’r adran hon, neu
- (b) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan yr
adran hon,
- yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.”.
11 Y pŵer i fynnu gwybodaeth
Ar ôl adran 14J o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14K Y pŵer i fynnu gwybodaeth
- (1) Caiff awdurdod gorfodi ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a bennir yn is-adran (2) roi iddo unrhyw wybodaeth, dogfennau, cofnodion neu eitemau eraill—
- (a) sy’n ymwneud â darparu cludiant i ddysgwyr, a
- (b) sydd, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn angenrheidiol neu’n hwylus i’w cael at dibenion ei swyddogaethau fel yr awdurdod gorfodi.
- (2) Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
- (a) corff perthnasol;
- (b) unrhyw berson sy’n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
- (3) Mae’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys, mewn perthynas â gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion a gedwir yn gyfrifiadurol, y pŵer i’w gwneud yn ofynnol eu darparu ar ffurf y mae modd eu darllen a mynd â hwy i ffwrdd.
- (4) Nid yw’r pŵer yn is-adran (1) yn cynnwys pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth, dogfennau neu gofnodion y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hwy mewn achos cyfreithiol yn cael eu darparu.
- (5) Mae unrhyw berson sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir yn rhinwedd yr adran hon yn euog o dramgwydd ac yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar yr raddfa safonol.”.
12 Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid Ar ôl adran 14K o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 mewnosoder—
“14L Tramgwyddau: atebolrwydd swyddogion a phartneriaid
- (1) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan gorff corfforaethol wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o’r corff corfforaethol, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r corff corfforaethol, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y swyddog yn atebol yn ogystal â’r corff corfforaethol ei hun.
- (2) Pan brofir bod tramgwydd o dan adran 14A, 14B neu 14C a gyflawnir gan bartneriaeth wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner yn y bartneriaeth, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner yn y bartneriaeth, caiff rheoliadau ddarparu y bydd y partner yn atebol yn ogystal â’r bartneriaeth ei hun.”.
13 Rheoliadau: ymgynghori
Ar ôl 14L o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) mewnosoder—
“14M Rheoliadau: ymgynghori
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod lleol ac ag unrhyw bersonau eraill y mae yn eu barn hwy yn briodol ymgynghori â hwy cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1.”.
14 Dehongli Ar ôl adran 14M o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 mewnosoder—
“14N Dehongli adrannau 14A i 14K
- (1) Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
- (2) Mae pob un o’r canlynol yn “gorff perthnasol”—
- (a) awdurdod lleol;
- (b) corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
- (3) Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i’w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw’n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o’r un sefydliad. :(4) Nid yw’r weithred o wneud unrhyw un o’r trefniadau a ganlyn i’w hystyried, ynddi’i hun, fel petai’n darparu cludiant i ddysgwyr neu’n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
- (5) Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran :(4) yw—
- (a) trefniadau i dalu’r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
- (b) trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
- (6) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran :(3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw’n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.”.
15 Darpariaethau cyffredinol am orchmynion a rheoliadau
- (1) Diwygier adran 27 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2008 ::(gorchmynion a rheoliadau) fel a ganlyn.
- (2) Yn is-adran :(2)—
- (a) ym mharagraff (a), ar ôl “neu” rhodder “ddosbarthau ar achos neu ddibenion
gwahanol neu”;
- (b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
“::(aa)i wneud darpariaeth yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig;”;
- (c) ym mharagraff ::(b), ar ôl “achosion” mewnosoder “neu ddosbarthau ar achos”.
- (3) Yn is-adran :(3), hepgorer “adran 7 neu adran 8” a rhodder “7, 8, 14B, 14C, 14D, 14E,
14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1”.
- (4) Ar ôl is-adran (4), mewnosoder—
- “(4A) Wrth gymhwyso is-adran (4) i reoliadau a wneir o dan adrannau 14B i 14F, adran 14H neu 14L neu Atodlen A1 mae’r cyfeiriad at “y Mesur hwn” yn is-adran (4) i’w ddehongli fel cyfeiriad at Fesur Teithio gan Ddysgwyr ::(cymru) 2011.”.
- (5) Yn is-adran (7)—
- (a) ym mharagraff (d) hepgorer “neu”;
- (b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—
“::(da) rheoliadau o dan adran 14B, 14C, 14D, 14E, 14F, 14H neu 14L neu Atodlen A1, neu (db) gorchymyn o dan adran 14N(6).”.
16 Cychwyn
- (1) Mae adran 1 yn dod i rym ar 1 Hydref 2014.
- (2) Daw gweddill darpariaethau’r Mesur hwn i rym ar ddiwedd cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y Mesur hwn ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.
17 Enw byr
Enw’r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.