Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008
← | Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
→ |
Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008
2008 mccc 1
MESUR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ynglyˆ n â threfniadau ar gyfer gwneud iawn mewn perthynas ag atebolrwydd mewn camwedd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 6 Mai 2008 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 9 Gorffennaf 2008, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—
1 Pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer iawn am gamweddau'r GIG
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy gyfrwng rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd yr adran hon yn gymwys.
- (2) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar ran corff neu berson a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys yng Nghymru neu yn rhywle arall fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
- (3) Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (2) yw—
- (a) Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru;
- (b) Bwrdd Iechyd Lleol;
- (c) Awdurdod Iechyd Arbennig;
- (d) Gweinidogion Cymru;
- (e) corff neu berson sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff neu berson a grybwyllir ym mharagraff (a) i (d).
- (4) Mae'r cyfeiriad yn is-adran (2) at atebolrwydd cymwys mewn camwedd yn gyfeiriad at atebolrwydd mewn camwedd sy'n ddyledus o ran neu o ganlyniad i anaf personol neu golled sy'n deillio o dor-dyletswydd gofal neu sy'n gysylltiedig ag ef a'r ddyletswydd gofal honno yn ddyledus i unrhyw berson mewn cysylltiad â diagnosio salwch, neu wrth ofalu am unrhyw glaf neu ei drin,—
- (a) o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan broffesiynolyn gofal iechyd, neu
- (b) o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
- (5) At ddibenion is-adran (2), mae gwasanaethau yn wasanaethau cymwys os ydynt o unrhyw ddisgrifiad (gan gynnwys disgrifiad sy'n cynnwys darpariaeth y tu allan i Gymru) y bydd Gweinidogion Cymru yn ei bennu gan y rheoliadau.
- (6) Yn is-adran (3)(e), nid yw'r cyfeiriad at berson sy'n darparu gwasanaethau yn cynnwys person sy'n darparu gwasanaethau o dan gontract cyflogaeth.
2 Iawn o dan y rheoliadau
- (1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglyˆ n ag iawn.
- (2) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu mai'r canlynol yw elfennau iawn fel arfer—
- (a) cynnig digollediad yn iawn am unrhyw hawl i godi achos sifil o ran yr atebolrwydd dan sylw;
- (b) rhoi esboniad;
- (c) ymddiheuro mewn ysgrifen; a
- (d) rhoi adroddiad ar y camau a gymerwyd neu a gymerir i atal achosion tebyg rhag codi;
- ond caiff y rheoliadau bennu amgylchiadau pan na fydd angen un neu ragor o'r ffurfiau hyn ar iawn.
- (3) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu nad yw iawn yn gymwys mewn perthynas ag atebolrwydd sydd neu a fu'n destun achos sifil.
- (4) Caiff y rheoliadau, yn benodol—
- (a) gwneud darpariaeth i'r digollediad y caniateir ei gynnig gymryd ffurf gwneud contract i ddarparu gofal neu driniaeth neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau;
- (b) gwneud darpariaeth ynglyˆ n â'r amgylchiadau pan ganiateir cynnig ffurfiau gwahanol ar ddigollediad.
- (5) Os yw'r rheoliadau yn darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol, cânt yn benodol—
- (a) gwneud darpariaeth ynglŷn â pha faterion y caniateir cynnig digollediad ariannol mewn perthynas â hwy;
- (b) gwneud darpariaeth mewn perthynas ag asesu swm unrhyw ddigollediad ariannol.
- (6) O ran y rheoliadau sy'n darparu ar gyfer cynnig digollediad ariannol—
- (a) cânt bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys mewn cynnig o iawn a wneir yn unol â'r rheoliadau;
- (b) rhaid iddynt, os nad ydynt yn pennu terfyn o dan baragraff (a), bennu terfyn uchaf ar y swm o ddigollediad ariannol y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig mewn perthynas â phoen a dioddefaint;
- (c) ni chânt bennu unrhyw derfyn arall ar yr hyn y caniateir ei gynnwys yn y cyfryw gynnig o ran digollediad ariannol.
3 Ymofyn am Iawn
- (1) Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag ymofyn am iawn.
- (2) Caiff y rheoliadau yn benodol wneud darpariaeth—
- (a) am bwy a gaiff ymofyn am iawn;
- (b) am sut y caniateir ymofyn am iawn;
- (c) am derfynau amser mewn perthynas ag ymofyn am iawn;
- (d) am amgylchiadau pan na chaniateir ymofyn am iawn.
4 Dyletswydd i ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn
- (1) Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson a grybwyllir yn is-adran (2)—
- (a) ystyried, o dan yr amgylchiadau y bydd y rheoliadau yn darparu ar eu cyfer, p'un a yw achos y mae'r corff neu'r person yn ymchwilio iddo neu yn ei adolygu yn cynnwys atebolrwydd y dichon fod iawn ar gael ar ei gyfer, a
- (b) os ymddengys ei fod ar gael, cymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.
- (2) Y cyrff neu'r personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—
- (a) unrhyw gorff neu berson y mae'r rheoliadau yn gymwys i'w atebolrwydd, a
- (b) unrhyw gorff arall neu unrhyw berson arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn y rheoliadau.
5 Dull darparu iawn
- (1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn â sut y mae iawn i'w ddarparu.
- (2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, wneud darpariaeth—
- (a) ynglŷn ag ymchwilio i geisiadau am iawn a wneir o dan y rheoliadau (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer goruchwylio'r ymchwiliad gan unigolyn o ddisgrifiad penodedig);
- (b) ynglŷn â ffurf a chynnwys cytundebau setlo o dan y rheoliadau;
- (c) i gytundebau setlo o dan y rheoliadau fod yn ddarostyngedig mewn achosion o ddisgrifiad penodedig i'w cymeradwyo gan lys;
- (d) ynglŷn â'r weithdrefn i'w dilyn pan fydd yr adeg a'r amgylchiadau cyfryw fel na chaniateir canlyn arni gyda cheisiadau am iawn o dan y rheoliadau mwyach.
- (3) Rhaid i'r rheoliadau—
- (a) gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau amser ac unrhyw estyniadau iddynt mewn perthynas â—
- (i) trefnu a chwblhau ymchwiliad;
- (ii) gwneud cynnig o iawn; a
- (iii) derbyn cynnig o iawn; o dan y rheoliadau,
- (b) gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodi mewn adroddiad ganfyddiadau ymchwiliad i achos pan fo unigolyn yn ceisio iawn o dan y rheoliadau, a
- (c) yn ddarostyngedig i is-adran (4), gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi copi o'r adroddiad i'r unigolyn sy'n ceisio iawn.
- (4) Caiff y rheoliadau ddarparu nad oes angen rhoi copi o adroddiad ymchwiliad—
- (a) cyn i gynnig o iawn o dan y rheoliadau gael ei wneud neu cyn i'r achos gael ei ddirwyn i ben am unrhyw reswm;
- (b) pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o achosi niwed neu ofid arwyddocaol i'r claf neu i geisydd arall; neu
- (c) o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir.
- (5) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu bod cytundeb setlo am iawn a wneir o dan y rheoliadau yn cynnwys ildiad o unrhyw hawl i godi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd y mae a wnelo'r setliad ag ef.
- (6) Rhaid i'r rheoliadau ddarparu na chaniateir ceisio iawn o dan y rheoliadau bellach os daw'r atebolrwydd y ceisir iawn yn ei gylch yn destun achos sifil.
6 Atal dros dro gyfnod y cyfyngiad
- (1) Rhaid i'r rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer diystyru'r cyfnod pryd y mae atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau at ddibenion cyfrifo p'un a yw unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol wedi dod i ben ai peidio.
- (2) Mae'r cyfeiriad yn is-adran (1) at unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol yn gyfeiriad at unrhyw gyfnod o amser ar gyfer codi achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd a ragnodir gan Ddeddf Cyfyngiadau Achosion 1980 (p.58) neu unrhyw ddeddfiad arall neu odanynt.
- (3) Caiff y rheoliadau ddiffinio at ddibenion darpariaeth yn unol ag is-adran (1) pan fydd atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
7 Cyngor cyfreithiol, etc.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (4), caiff y rheoliadau wneud y ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas—
- (a) ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau;
- (b) ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.
- (2) Rhaid i'r rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol er mwyn sicrhau bod unigolion y caniateir gwneud cynnig o iawn iddynt o dan y rheoliadau yn cael ymofyn am gyngor cyfreithiol yn ddi-dâl mewn perthynas ag—
- (a) unrhyw gynnig a wneir,
- (b) unrhyw wrthodiad i wneud y cyfryw gynnig; ac
- (c) unrhyw gytundeb setlo.
- (3) Caiff darpariaeth o dan is-adran (1)(a) neu (2) ynghylch pwy a gaiff ddarparu'r cyngor cyfreithiol gael ei gweithredu drwy gyfeirio at restr sy'n cynnwys darparwyr posibl ac a lunnir gan berson neu gorff penodedig.
- (4) Os yw'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau arbenigwyr meddygol, rhaid iddynt ddarparu hefyd bod yr arbenigwyr hynny yn cael eu cyfarwyddo ar y cyd gan y corff neu'r person sy'n gweithredu'r trefniadau iawn o dan y rheoliadau a chan yr unigolyn sy'n ceisio iawn.
8 Cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn
- (1) Dyletswydd Gweinidogion Cymru yw trefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, fod cymorth yn cael ei ddarparu (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth (drwy gyfrwng cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i unrhyw berson neu gorff yn unol â threfniadau o dan yr adran hon ac adran 7.
- (4) Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i'r egwyddor y dylai darparu gwasanaethau o dan y trefniadau mewn cysylltiad ag achos penodol, i'r graddau y mae'n ymarferol, fod yn annibynnol ar unrhyw berson y mae a wnelo'r achos â'i ymddygiad neu unrhyw berson sydd â rhan yn y gwaith o ymdrin â'r cais am iawn.
9 Swyddogaethau o ran trefniadau iawn
- (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i unrhyw berson neu gorff o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru fod â'r swyddogaethau o ran gweithredu trefniadau iawn o dan y Mesur hwn y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn addas.
- (2) Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu i'r cyfryw bersonau neu gyrff fod â swyddogaethau mewn perthynas ag—
- (a) ymofyn am iawn;
- (b) taliadau yn iawn o dan gytundebau setlo;
- (c) darparu cyngor neu ganllawiau am faterion penodedig mewn cysylltiad â threfniadau iawn;
- (d) darparu cyngor cyfreithiol di-dâl mewn cysylltiad â threfniadau iawn;
- (e) monitro sut y mae personau neu gyrff yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y rheoliadau;
- (f) cyhoeddi data blynyddol am y trefniadau iawn.
- (3) Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson wrth iddo gyflawni swyddogaethau o dan y rheoliadau—
- (a) cadw cofnodion penodedig mewn perthynas â chyflawni'r swyddogaethau hynny;
- (b) rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros oruchwylio sut y mae swyddogaethau penodedig a roddwyd i'r corff hwnnw neu i'r person hwnnw yn cael eu cyflawni o dan y rheoliadau;
- (c) rhoi cyfrifoldeb i unigolyn o ddisgrifiad penodedig dros gynghori'r corff neu'r person ynglŷn â'r gwersi sydd i'w dysgu o achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau.
- (4) Rhaid i'r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw gorff neu berson yn llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol am achosion sy'n ymwneud â'r corff hwnnw neu â'r person hwnnw ac yr ymdrinnir â hwy o dan y rheoliadau ynghyd â'r gwersi sydd i'w dysgu oddi wrthynt.
- (5) Caiff y rheoliadau ddarparu bod unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan gorff neu berson o dan y rheoliadau, drwy drefnu gyda'r corff hwnnw neu gyda'r person hwnnw ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ac amodau y mae'r corff hwnnw neu'r person hwnnw yn meddwl eu bod yn addas, gael ei harfer ar ran y corff hwnnw neu'r person hwnnw gan gorff neu berson arall neu ar y cyd â'r corff hwnnw neu'r person hwnnw.
- (6) Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gorff neu berson sy'n arfer swyddogaethau o dan y rheoliadau roi sylw i unrhyw gyngor neu ganllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Weinidogion Cymru.
- (7) Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ei heffaith yw y bydd gan gorff neu berson ac sydd wedi trefnu ar gyfer darparu gwasanaethau swyddogaethau o dan y rheoliadau sy'n ymwneud ag atebolrwydd rhywun arall mewn cysylltiad â darparu'r gwasanaethau hynny.
10 Cwynion
- Yn adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
- "(d) the provision of redress by or for a Welsh NHS body under the NHS Redress (Wales) Measure 2008."
11 Gorchmynion a rheoliadau
- (1) Mae unrhyw bwˆ er i wneud gorchymyn neu reoliadau a roddir gan y Mesur hwn yn arferadwy gan offeryn statudol.
- (2) Mae unrhyw bwˆ er gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
- (a) i wneud darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau sy'n cynnwys arfer disgresiwn;
- (b) i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;
- (c) i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol; a
- (d) i wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, arbed neu drosiannol y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas.
- (3) Caniateir arfer unrhyw bwˆ er sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau neu orchmynion o dan y Mesur hwn (yn ogystal â bod yn arferadwy mewn perthynas â phob achos y mae'n ymestyn iddo) mewn perthynas â'r holl achosion hynny yn ddarostyngedig i eithriadau neu mewn perthynas ag unrhyw achos neu ddosbarth ar achos.
- (4) Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn yn ddarostyngedig i'w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
- (5) Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.
- (6) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sydd—
- (a) yn cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ran o destun Deddf Seneddol neu un o Fesurau'r Cynulliad, neu
- (b) yn cynnwys y rheoliadau cyntaf o dan adran 1(1), neu
- (c) yn cynnwys rheoliadau yn gwneud darpariaeth o dan adran 1(4)(b), adran 1(5), adran 3 neu adran 5, neu
- (d) yn cynnwys y rheoliadau cyntaf i wneud darpariaeth o dan adrannau 2, 4, 6, 7 neu 9,
- oni bai i ddrafft o'r offeryn gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
- (7) Nid oes dim yn y Mesur hwn i'w ystyried fel petai'n cyfyngu ar gyffredinolrwydd adrannau 1(1) a 12(1).
12 Pŵer i wneud darpariaeth atodol a chanlyniadol bellach etc.
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg drwy reoliadau wneud—
- (a) unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, neu
- (b) unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi. (2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) yn benodol wneud darpariaeth—
- (a) sy'n diwygio neu'n diddymu unrhyw ddeddfiad a basiwyd cyn neu yn ystod yr un flwyddyn Cynulliad â'r Mesur hwn, a
- (b) sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p.30)) a wnaed cyn pasio'r Mesur hwn.
13 Dehongli
- Yn y Mesur hwn—
- mae "anaf personol" ("personal injury") yn cynnwys unrhyw glefyd ac unrhyw amhariad ar iechyd corfforol neu feddyliol unigolyn;
- mae i "claf" yr un ystyr â "patient" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
- ystyr "y gwasanaeth iechyd yng Nghymru" ("the health service in Wales") yw'r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o'r Ddeddf honno;
- ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("a health care professional") yw aelod o broffesiwn (p'un a yw'n cael ei reoleiddio gan unrhyw ddeddfiad neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud (yn llwyr neu yn rhannol) ag iechyd corfforol neu iechyd meddyliol unigolion;
- mae i "salwch" yr un ystyr ag "illness" yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).
14 Teitl byr a chychwyn
- (1) Enw'r Mesur hwn yw Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008.
- (2) Daw'r adran hon i rym ar y diwrnod pan gymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor.
- (3) Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y diwrnod neu'r diwrnodau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Nodiadau gan Wicidestun (dim yn ran o'r cyhoeddiad gwreiddiol na'r ddeddf)
golygu