Mewn Album
MEWN ALBUM
- CERDDA rhai adwaenom heno
- Ewrop bell ddi-gainc,
- Lle mae dafnau gwaed ar fentyll
- Prydain Fawr a Ffrainc.
- Cysga eraill a adwaeno
- Yn y fynwent brudd;
- Lle maer awel fyth yn wylo,
- Wylo nos a dydd.
- Troeog iawn yw llwybrau bywyd
- Megis gwynt yr hwyr;
- Pa le'n cludir ninnau ganddo,
- Duw yn unig wŷr.