Mi af ymlaen yn nerth y nef
← D A'i 'mofyn haeddiant byth, na nerth | Mi af ymlaen yn nerth y nef gan William Williams, Pantycelyn |
Mor beraidd i'r credadun gwan → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
113[1] Nerth a Hyfrydwch yng Nghrist.
M. C.
1.MI af ymlaen yn nerth y nef
Tua'r paradwysaidd dir;
Ac ni orffwysaf nes cael gweld
Fy etifeddiaeth bur.
2.Mae llais yn galw i maes o'r byd
A'i bleser o bob rhyw;
Minnau wrandawa'r hyfryd sŵn—
Llais fy Anwylyd yw.
3.'D wy'n gweld ar aswy nac ar dde,
'Mhlith holl wrthrychau'r byd,
Ddim dâl ymddiried yn ei nerth,
Na rhoddi arno 'mryd.
4.Iesu yw tegwch mawr y byd,
A thegwch penna'r nef;
Ac y mae'r cwbwl sydd o werth
Yn trigo ynddo Ef.
5.A boed fy mhleser bellach byth
O dan ei adain wiw;
Na foed difyrrwch gennyf mwy
Mewn dim ond yn fy Nuw.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 113, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930