Mi debygaf clywaf heddiw
← | Mi debygaf clywaf heddiw gan William Williams, Pantycelyn |
Mewn anialwch 'r wyf yn trigo → |
420[1] Gorfoledd Nef a Daear.
87. 87. D.
1 MI debygaf clywaf heddiw
Sŵn caniadau draw o bell,
Torf yn moli am waredigaeth,
Ac am ryddid llawer gwell;
Gynau gwynion yw eu gwisgoedd
Palmwydd hyfryd yn eu llaw,
A hwy ânt gyd â gogoniant
'Mewn i'r bywyd maes o law.
2 Minnau bellach orfoleddaf
Fod y Jiwbil fawr yn dod,
Y cyflawnir pob rhyw sillaf
A lefarodd Iesu erioed;
De a gogledd yn fyrddiynau
Ddaw o eithaf tywyll fyd,
Gyda dawns ac utgyrn arian,
'Mewn i Salem bur ynghyd.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 420 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930