Moliannaf enw'r Tad o'r nef
← O! Am dafodau fil ar gân | Moliannaf enw'r Tad o'r nef gan John Gruffydd Moelwyn Hughes (Moelwyn) |
Cydunwn a'r Angylion Fry → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
5[1] Moli'r Tad.
M. C.
1 MOLIANNAF enw'r Tad o'r nef
Am waredigaeth ddrud,
A thosturiaethau fwy na mwy,
Trwy haeddiant Prynwr byd.
2 Nac ofna, f'enaid, am a ddaw,
Wrth deithio tua'r nef;
Ni ddigwydd niwed nac un cam
I'r hwn sydd ynddo Ef.
3 Er cystal trugareddau'r Iôn,
Fy Iesu mawr yw'r dawn
Sy'n cynnwys popeth ynddo'i Hun—
Fy iechydwriaeth lawn.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 5, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930