Molianned uchelderau'r nef

Trugaredd Duw i'n plith Molianned uchelderau'r nef

gan Howell Elvet Lewis (Elfed)

O! Am dafodau fil ar gân
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

3[1] "Megis yn y Nef, felly ar y Ddaear."
M. C.

1. MOLIANNED uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.

2. Canmoled disglair sêr di-ri'
Ddoethineb meddwl Duw ;
Ac yn ein dagrau dwedwn ni
Mai doeth a chyfiawn yw.


3 Am ei sancteiddrwydd moler Ef
Gan gôr seraffiaid fyrdd;
Atebwn ninnau ag un llef
Mai sanctaidd yw ei ffyrdd.

4 Trwy'r nefoedd wen o oes i oes
Canmoler cariad Duw ;
A chanwn ninnau wrth y groes
Mai Duw y cariad yw.

5 Molianned uchelderau'r nef
Yr Arglwydd am ei waith,
A cherdded sŵn ei foliant Ef
Trwy'r holl ddyfnderau maith.

—Howell Elvet Lewis (Elfed)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 3, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930