Moliant Cadwallon
gan Afan Ferddig
- Aches ymleinw tafl twrf ym myddin,
- Twrf Cadwallon hael eddyl fuddin —
- Esgar hyddhafal â thân chwefrin.
- Rhahawd ei gadfeirch a'i radlawn — feddud,
- Ei folud ar llyr llawn,
- Na fid gwynt Deau a môr eigiawn
- Hefelys i long nâr llu estrawn.
- Hydd esgyr ei wyr a daly iawn.
- Ni fad-aned mab byth mor rhadlawn.
- Cynnefod Echel aeth cywryd gamawn.
- Tewid rhiau crawn rhag udd proestlawn,
- Garddai er pan aned dyn dyfnddawn — Cymru
- Pan rygreas Crist Cadwallawn.
- Ys amnoddwy Duw ei ddewr — orchorddon
- Nis arlluddion' gwynt a thonnawr,
- Cychwedl a'm doddwy o Wynedd glawr
- Lladd ei gwyr yn aer anoleithawr.
- Diau trafodynt lladd â llafnawr.
- Rhifed odudded a gynhennawr
- Yd wna; o Gadwallon pan gymhwyllawr — ym myd
- Tra berheÿd nef uch elfydd lawr.
- Osid ardd ym Môn ryphebyllas,
- Maelgwn hefelydd haelon efras.
- Neud ar arch Brynaich ni ryddadlas
- Ac Edwin arnu yn dad rhwy dwyllfras.
- Ni buglawdd ei wartheg, nis arllafas — neb.
- Cyman a gweithen i dan addas
- Ar wyneb Cymru, Cadwallon was.
- Dybydd inn' ddofydd y luyddawg — Prydain,
- Y digones gwychr Wallawg
- Eilywed Gatraeth fawr fygedawg.
- Biw rhewydd rhan rhad luosawg — yn aer
- Yng nghatref gwynwesti farchawg.
- Esgor lludded Llong, llan gleddyfawg.
- Ysbyddawd Cadwallon Gaergaradawg — fre,
- Wrth ei gyfwyre gynne Efrawg.
- Cywair ddienwair y funer — Prydain,
- Pryd iôr fuddig adfer.
- Cedwid grudd Cymru can ddiffer — ei ysgwyd,
- Ei ysberi pell yd glywer
- (Caeawg cynhorawg cawgawg ffêr)
- Pefr Borth Ysgewin, cyffin aber.
- Canador cathl gwynfyd gwenleufer
- Goluchaf glew hael hilig naf nêr
- Aded gynt, ethynt yn hydrfer — hallt
- Rhag gawr. Pall-gorthrycher
- A fo uch no thi, hael ddifynfer — arglwydd
- Onid gorail awyr a sêr
- Cadwallawn Einiawn arial ymher…
- O Gymru dygynnau tân yn nhir Elfed
- Bei yd fynt heb lurig wen waedled
- Rhag unmab Cadfan, Cymru ddiffred.
- Draig dinas Cymru Cadwallon.
- Colofn cyrdd Cymru Cadwallon Môn.
- Cymru gan hoelion a fo mor dde.gori