Morfudd fel yr haul
gan Dafydd ap Gwilym
- Gollwyn ydd wyf ddyn geirllaes,
- gorlliw eiry mân marian maes;
- gŵyl Duw y mae golau dyn,
- goleuach nog ael ewyn.
- Goleudon lafarfron liw,
- goleuder haul, gŵyl ydyw.
- Gŵyr obryn serchgerdd o’m pen,
- goreubryd haul ger wybren.
- Gwawr y bobol, gwiwra bebyll,
- gŵyr hi gwatwaru gŵr hyll.
- Gwiw Forfudd, gwae oferfardd
- gwan a’i câr, gwen hwyrwar hardd.
- Gwe o aur, llun dyn, gwae ef
- gwiw ei ddelw yn gwaeddolef.
- Mawr yw ei thwyll a’i hystryw,
- mwy no dim, a’m enaid yw.
- Y naill wers yr ymdengys
- fy nyn gan mewn llan a llys,
- a’r llall, ddyn galch falch fylchgaer,
- yr achludd gloyw Forfudd glaer,
- mal haul ymylau hoywles,
- mamaeth tywysogaeth tes.
- Moliannus yw ei syw swydd,
- maelieres Mai oleurwydd.
- Mawr ddisgwyl Morfudd ddisglair,
- mygrglaer ddrych mireinwych Mair.