Fy hatling offrymaf dros enaid dan glo,
fy nghanwyll offrymaf yn eglwys y fro,
’r offeren weddïaf saith seithwaith yn daer
er cadw ei enaid anfarwol.
Myn Mair, Myn Mair.


Sant Pawl a Sant Peder, holl seintiau y nef,
a Mair, Mam y Duwdod, eiriolwch yn gref
dros iddo gael heddwch a gwerthfawr ryddhad,
paradwys agored, a breichiau ei Dad.
Myn Mair, myn Mair.


Mam Iesu’r brydferthaf o ferched y byd,
Morwynig Frenhines y nefoedd i gyd,
dlos lili y dyffryn, gwiw rosyn y nef,
eiriola dros enaid fy nghyfaill yn gref.
Myn Mair, Myn Mair.