Nansi'r Dditectif/Y Dyddlyfr
← Ymwared | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Chwilio am yr Ewyllys → |
PENNOD XVI
Y DYDDLYFR
YDYCH am fyned adref i Drefaes heno?" gofynnai'r cymydog i Nansi wedi iddynt ddod allan o orsaf yr heddlu.
"Ydwyf yn wir, os yn bosibl," atebai Nansi.
"Wel, y mae gennyf fi fusnes i'w wneud yno, ac os ydych yn barod mae croeso i chwi ddod gyda mi. Ond ofnaf y bydd raid i chwi ddod ar unwaith."
"Yr wyf yn barod y funud yma," ebe Nansi'n ddiolchgar, "gorau po gyntaf gennyf weled Trefaes."
Ymhen yr hanner awr yr oeddynt wedi cyrraedd Trefaes. Rhoddodd y gŵr caredig Nansi i lawr yng nghanol y dref. Ceisiodd ganddo iddo ddod adref gyda hi, i'w thad ddiolch iddo, ond crefodd arni i'w esgusodi am y tro. Ar ôl diolch iddo am ei garedigrwydd mawr iddi, cychwynodd Nansi am adref ar ei phen ei hun.
Teimlai ei bod yn methu'n lân a chyrraedd adref yn ddigon buan. Yr oedd y dyddlyfr fel yn llosgi yn ei gwisg. Pan aeth i'r tŷ, cyferfu Hannah hi, a mawr oedd syndod y forwyn wrth weled ei meistres ieuanc gartref mor fuan o'r gwersyll. Cafodd nad oedd ei thad wedi cyrraedd adref o'r swyddfa. Huliodd Hannah'r bwrdd ar unwaith. Yr oedd Nansi bron diffygio gan eisiau bwyd, ond yr oedd wedi bod yn rhy gynhyrfus hyd yn hyn i sylwi ar hynny.
"Wel, dyma gyfle i chwilio'r dyddlyfr," meddai gan wneud ei hun yn gyfforddus yn y gadair freichiau yn y gegin, tra prysurai Hannah gyda'i pharatoadau.
"Yn awr, beth ddaeth o'r ewyllys tybed? Gobeithio bod rhywbeth ar gyfer Besi a Glenys ac Abigail Owen.'
Trodd dudalen ar ôl tudalen, a dechreuodd braidd ddigalonni wrth weld dim ond rhesi a rhesi o ffigurau. Yr oedd llawer o ryw fanion ynghylch arian yma ac acw yn y llyfr, ond dim am yr ewyllys hyd a welai. Ond o'r diwedd gwelodd y geiriau, "Fy Ewyllys," a dechreuodd ei chalon guro'n gyflym.
"O'r diwedd," gwaeddai'n llawen, gan neidio ar ei thraed, er braw i Hannah, "Dyma fi wedi ei gael o'r diwedd."
Ar y ddalen yn ysgrifen grynedig Joseff Dafis, darllennodd Nansi y geiriau canlynol:
Y MAE FY EWYLLYS I'W CHAEL MEWN BOCS, YM MANC
Y MAES, PENYBEREM, YN ENW JOSIAH HARRIS, RHIF 148.
Hawdd gweled yn ôl lliw yr inc nad oedd yr ysgrif yn hen iawn.
"Dyna ddigon o brawf fod yr ewyllys yn bod," ebe Nansi yn uchel, "yr wyf yn siwr nad y Morusiaid gaiff y cwbl yn hon."
Aeth ymlaen i archwilio'r dyddlyfr yn fanylach, ond ni chanfu ddim ymhellach ynglŷn â'r ewyllys.
"Nid yw fawr ryfedd na ddaeth yr ewyllys i'r golwg," meddyliai Nansi. "Pwy fuasai yn breuddwydio am chwilio bocs yn y banc yn enw Josiah Harris? Bu bron iawn i'r hen Joseff a gorchfygu ei amcan ei hun y tro yma.
Torrwyd ar ei myfyr gan i'w thad ddod i mewn i'r gegin. Rhedodd Nansi i'w gyfarfod.
"Helo, Nans," cyfarchai hi mewn syndod, "pe gwyddwn eich bod yma buaswn adref ers meityn. Ond beth barodd i chwi ddyfod yn ôl o'r gwersyll? Onid oeddych wedi trefnu i aros yno yn hwy?"
"Wel," atebai Nansi, gan geisio cuddio ei brwdfrydedd, "y mae gennyf ddigon o reswm."
Cyn i'w thad fedru tynnu ei gôt a'i het, dechreuodd Nansi ar ei stori, ac adroddodd bopeth yn fanwl a gorffen drwy ddangos y dyddlyfr iddo yn fuddugoliaethus.
"Wel, Nansi," meddai Mr. Puw, mewn syndod, "chwi yw'r ditectif gorau welais erioed."
"Cael hwyl am fy mhen yr ydych," ebe Nansi, ond gwridai ei hwyneb â phleser dan ganmoliaeth ei thad.
"Na, nid hwyl ydyw i mi, Nansi," meddai ei thad o ddifrif, "yr wyf yn teimlo'n falch ohonoch. Ni fuaswn wedi llwyddo cystal fy hunan. Dipyn o fenter oedd wynebu'r lladron, ond gan eich bod adref yn ddiogel unwaith eto mae popeth yn dda."
"Nid yw'r Morusiaid yn mynd i ddiolch llawer i mi pan welant beth a wneuthum.'
"Prin. Efallai y cyhuddant chwi o dorri i'w hafoty a lladrata o'r cloc, er bod y tŷ yn agored pan aethoch yno. Ond efallai y medrwn gadw'r wybodaeth yna oddi wrthynt, ac os llwyddwn i wneud hynny ni chânt byth wybod sut y cafwyd yr ewyllys."
Cymerodd Edward Puw y dyddlyfr yn ei law ac edrychodd drwyddo gyda diddordeb mawr. Deallai fwy ar ei gyfrinion na wnai Nansi.
"Y mae ffortiwn Joseff Dafis yn werth ei chael, yn ôl a welaf oddi wrth y ffigurau," meddai.
"Gobeithio na wêl y Morusiaid yr un ddimai goch ohoni," ebe Nansi. Ni allai anghofio y cam a wnaed â'r gweddill o'r perthynasau.
"Mae'n debyg mai felly y bydd," atebai ei thad. "Ond ni ellir bod yn sicr heb weled yr ewyllys. Os nad wyf yn camgymryd yn fawr, bydd canfod yr ewyllys ddiwethaf yn taro'r Morusiaid yn drwm iawn ar amser anffodus iawn."
"Beth ydych yn feddwl, fy nhad?"
"Wel, clywais yn gyfrinachol, fod William Morus wedi colli cryn lawer o'i arian yn ddiweddar. Mentrodd yn ormodol a chafodd fenthyg arian o'r banc ar sail ei fod yn disgwyl arian Joseff Dafis. Y mae yn dibynnu ar yr arian i'w dynnu allan o le cyfyng. Dyna paham y mae wrthi â'i holl egni yn ceisio gyrru pethau ymlaen i setlo yr ewyllys sydd ganddo."
Dwysbigodd cydwybod Nansi hi am foment. Yr oedd yn rhy galon dyner i edrych ar neb yn cwympo heb dosturio wrthynt. Ond cofiai yr un pryd mai ychydig, os dim, cydymdeimlad a ddangoswyd gan y Morusiaid at rai llai ffodus na hwy, a hwythau ar ben eu digon.
"Yn awr, Nansi, y cam nesaf yw cael gafael ar yr ewyllys cyn i gynnwys y dyddlyfr yma ddod i glustiau William Morus."
"Dyma lle y deuwch chwi i mewn, nhad," ebe Nansi. "Nis gwn i ond y peth lleiaf am ochr gyfreithiol y busnes.
"Gwyddoch yn dda fy mod yn barod i helpu. Yn gyntaf oll, rhaid i ni gael yr ewyllys i'n dwylo."
"Ie, felly awn i Benyberem bore yfory. Awn i ariandy'r Maes. Gofynnwn am yr ewyllys, a dyna ni," ebe Nansi'n siriol.
Chwarddodd Mr. Puw at eiddgarwch ei ferch. "Na," meddai, "nid yw lawn mor rwydd a hynyna chwaith. Dichon iawn y bydd raid i ni gael caniatâd swyddogol i agor bocs Joseff Dafis."
"O," ebe Nansi, "ni chofiais am hynny. Ond yr ydych chwi yn siwr o gael yr awdurdod hwnnw."
"Wel, y mae'n bosibl y gallaf. Bydd yn hawdd i mi ddweud mai gweithredu dros Besi a Glenys y byddaf. Bydd yn berffaith iawn imi ddweud hynny gan imi addo eu cynorthwyo."
"Yr wyf yn siwr y daw popeth fel y gobeithiwn," meddai Nansi'n frwdfrydig, "caiff y perthynasau tlawd yr arian, a bydd y Morusiaid heb ddim. Caiff Abigail Owen bob cymorth meddygol posibl, a bydd digon i Besi a Glen a'r lleill tra byddant byw.
"Peidiwch gobeithio gormod," cynghorai ei thad, "gall rhywbeth nas gwyddom amdano ddod i chwalu ein gobeithion. Mae'n bosibl na bydd yr ewyllys yn y bocs wedi'r cyfan. Ni wyddom ychwaith sut y rhannodd Joseff Dafis ei arian ynddi. Credaf mai'r peth gorau yw i chwi beidio sôn gair wrth y genethod hyd nes byddwn yn hollol sicr o'n pethau.
"O'r gore, nhad," ebe Nansi, wrth droi am y grisiau "yr wyf fi yn teimlo'n ffyddiog iawn mai fel y tybiwn y bydd yr ewyllys. Yr wyf yn dyheu am weled beth sydd ynddi."
Hanner ffordd i fyny'r grisiau, trodd yn ôl i nôl y dyddlyfr oddi ar y bwrdd.
"Ar ôl bod drwy gymaint i gael gafael ar hwn, gwell peidio ei adael ymhell iawn oddi wrthyf. Cysgaf yn well â hwn tan y gobennydd heno."