Naw Mis yn Nghymru/O Aberduar i Aberteifi
← Ymweliad a Myfyr Emlyn | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn Sir Benfro → |
PENOD XXVIII.
O Aberduar i Aberteifi.
Yn Aberduar y bedyddiwyd yr anfarwol Christmas Evans, gan y Parch. Timothy Thomas, yn 1788, pan yn 23ain oed, ac wedi bod yn pregethu gyda'r Presbyteriaid Arminaidd am dair blynedd a haner. Yr oedd y ffaith hon yn peri i mi deimlo dyddordeb neillduol yn y lle ar fy ymweliad.
Yn fuan wedi i mi gyrhaedd, dychwelai y Parch. H. James, y gweinidog, a'i briod, o daith ymweliadol, wedi cael peth niwaid trwy i'w ceffyl wyllt-redeg gyda'r cerbyd, ond yn ffodus nid oedd y niwaid yn ddifrifol.
Pan yn y pwlpud, cyn dechreu yr oedfa, tynwyd fy sylw gan ymddygiadau dyn mewn sêt ar y chwith i mi. Pe buasai yn Babydd ni fuasai ei ddefosiynau yn fwy dangosol. Neillduolion meddyliol a chrefyddolder a'i llywodraethai. Ofnwn ar y cyntaf y gallai beri diflasdod i mi, ond hyny ni fu.
Wrth sefyll ger beddau yr hen gyn-weinidogion enwog yn mynwent y capel, meddienid fi gan barch dwfn i'w coffawdwriaeth.
Dyrysais dipyn wrth fyned i Landysul, trwy fyned i lawr i Pencader gyda trên, yn lle tori ar draws ar linell unionsyth o'r orsaf gyntaf o Aberduar. Cerddais bob cam o Bencader i Landysul, ac oddiyno drachefn i Drefach. Yn Llandysul troais i mewn i siop hen weinidog yr eglwys, mewn hen adeilad oedranus digrif. Mae siopau hen-ffasiwnol yn llawer mwy dymunol na rhai ysblenydd diweddar. Maent rywfodd yn fwy fforddus —felly y siop hon. Deuai pecyn o Seren Cymru yno ar y pryd, ac yr oedd hyny eto yn asio yn ddymunol a phethau eraill.
Daeth y Parch. T. E. Williams, Aberystwyth, i mewn, yr hwn oedd o amgylch yn casglu tanysgrifiadau at un o gymdeithasau cyffredinol yr enwad. Ynddo ef ceid hefyd elfen gydnawsiol.
Yr oedd y gweithwyr yn troi ffrynt capel y Bedyddwyr lawr y dref, at yr heol, yn lle fel o'r blaen. Tybiwn mai gwaith da yr oeddynt hwy yn ei wneuthur.
Wrth holi, deallwn nad oeddwn yn mhell yma oddiwrth Castell-hywel, yr hwn le a wnaed yn enwog trwy enwogrwydd yr adnabyddus a'r clodfawr David Davis, Castell-hywel. Pe amser yn caniatau, buaswn yn myned i gael cipolwg ar y fangre. Deallais i wyr o fri iddo ef fod yn yr ysgol yn Llandysul, sef Thomas R. Davis, Ysw., Philadelphia, yr hwn, pan boenid ef yn ddibaid gan ryw ddau o fechgyn yr ysgol, a droes o'r diwedd atynt ac a ddiwallodd y ddau a churfa dda.
Yn y prydnawn elwn tua'r Drefach. Cefais fwynhad wrth dremio ar y wlad bob cam o'r ffordd, yr hon oedd dipyn yn droellog; yn y trofeydd mynych, mynai y ffordd fy nghael i ail-edrych, megys, ar lawer golygfa.
Yn Drefach cefais ddadl dwymn â Thorïaid, yn nhy Mr. Lewis, cefnder y Parch. J. Lewis, Abertawe. Yr oeddynt yn dri. Mynent nad oedd gan y Gwyddelod un hawl i ddweyd dim yn y Parliament o berthynas i Home Rule. Safent ar yr un tir, meddynt, a charcharor o flaen y fainc. Gwesgais hwy i gornel yn y man hwn. Braidd y credaf y clywsent neb erioed o'r blaen yn dweyd y drefn mor hallt yn erbyn Torïaeth a gorthrwm. Gan yr ofnwn fy mod wedi cymeryd gormod o ryddid mewn ty dyeithr, gwnawn esgusawd i wr y ty am fy eofndra, ond sicrhai fi nad oedd angen.
Mae yr achos yn Drefach yn llewyrchus, ac o dan aden eglwys Castellnewydd Emlyn.
Ar fy ffordd i'r lle olaf gwelais dy tô gwellt prydferth iawn, ar ymyl y ffordd, ar y dde i mi. Dywedaf prydferth, canys felly yr ydoedd-glanwaith, gwyn, twt, trwsiadus, a phob gwelltyn yn ei le, a gerddi bychain yn llawn blodau o'i gylch.
Yn ymyl Castellnewydd Emlyn cyfarfyddais a'r Parch. Mr. Davies, brawd Mr. Daniel Davies, Carbondale,—efe oedd ar geffyl yn myned adref o'r farchnad.
Yna cyfarfyddais ag un o'r Thomasiaid, mewn cerbyd yn cael ei dynu gan ddyn. Nid ofnai i'r ceffyl redeg, yr hyn oedd yn beth gwerthfawr i ddyn afiach nervous.
Mae capel y Bedyddwyr yn Castellnewydd yn raenus, ac yn meddu lleoliad yn nghanol y dref. Cyn ymadael, aeth Mr. Griffiths, y gweinidog, a fi i weled y dref, yr hen gastell, y bedydd-fan, a'r tloty gerllaw, yr hwn oedd fel parlwr, ond bron heb neb ynddo. Aelod yn eglwys Mr. Griffiths yw y goruchwyliwr.
Cymerais y coach i Aberteifi ddydd Sadwrn. Y gyrwr wedi cael "llymaid," a gymerai "lymaid” eilwaith, a thrydedd waith. Gan fod yr amser yn myned wrth sefyllian gyda'r "llymaid," yr oedd yn rhaid i'r ceffylau a'r hen coach fyned i wneyd i fyny y coll. Ni fuaswn erioed o'r blaen mewn cerbyd yn cael ei dynu gan geffylau yn myned mor chwyrnellol. Gyrwyd mewn un man ar draws trol ac asyn, gan daflu y cyfryw ar amrantiad o'r neilldu. Ofnwn mewn gwirionedd y teflid finau a'm cwmpeini o'r neilldu gan fel y carlamai y meirch. Dysgwyliwn bob mynyd am dynged anhapus. Cyrhaeddwyd Aberteifi yn ddiogel, a gorfoledd mawr oedd hyny. Oni buasai fod yr heolydd yn llyfn-wastad, buasem oll wedi ein chwilfriwio. Meddyliwn beth fuasai y canlyniad o yru felly ar ambell ffordd yn America.
Yn fy nysgwyl wrth y cerbyd yr oedd hen gyfaill o gyd-fyfyriwr, y Parch. Thomas Phillips, gweinidog eglwys y Ferwig, yr hwn a gartrefa yn Aberteifi.
Wrth fyned i fyny i Ferwig foreu Sabboth yr oeddwn yn myned heibio hen gartref yr hybarch John Herring. Yn eglwys y Ferwig y dechreuodd y Parch. D. Rhys Jones, Plymouth, Pa., weinidogaethu.
Trwm i mi yno oedd sefyll ger bedd Mr. B. Jones, brawd rhagorol fuasai farw yn ddiweddar, ac yn fuan wedi ei ddychweliad o America, lle y buasai fyw amryw flynyddau.
Cefais foddhad mawr yn ngwaith Mr. Phillips, y gweinidog, yn rhoddi emynau allan; synwn nad oeddwn wedi gweled yr emynau yn y "Llawlyfr Moliant," o ba lyfr yr oedd efe yn eu darllen.
Pregethais am ddau yn y prydnawn yn Penyparc, ac yn yr hwyr yn Aberteifi. Yn Aberteifi yr oedd y gynulleidfa yn fawr, ac yr oedd pwysigrwydd y lle yn gwneyd i mi fod yn dra awyddus er sicrhau cwrdd derbyniol. Mae yr eglwys yma yn parhau mewn cyflwr llwyddianus o dan weinidogaeth y Parch. J. Williams, yr hwn a lafuria yno er's amryw flynyddau.