Naw Mis yn Nghymru/Rhagoriaethau Nacaol Cymru

Yn y Deheudir Naw Mis yn Nghymru

gan Owen Griffith (Giraldus)

Hwyrddydd gydag Arwystl

PENOD V.

Rhagoriaethau Nacaol Cymru.

Un o brif ragoriaethau nacaol Cymru yw bod yn rhydd oddiwrth anffyddiaeth. Yn Lloegr a'r Cyfandir, y mae y drythyll yn taflu ei gysgodion tywyll dros lawer meddwl dysglaer. Y mae hyn i'w briodoli, i raddau helaeth, i ddylanwad niweidiol Tom Paine, Voltaire, ac eraill o'r un dosbarth.

Voltaire oedd hwn, fel tarw—uffernol
A ffyrnig am fwrw;
A'i gyrn lawr—gair Ion a'i lw,
A byd arall heb dwrw.

Tom Paine geid y mwya' pôr—o'r holl lu,
Oedd i'r lleng yn flaenor;
Ddenai ei hil fil i for-annuw hâint,
Yn ail y genfaint i fol eigionfôr.

Ond ychydig, os dim, o'u dylanwad gwenwynig gyrhaeddodd Gymru.

Nid oes yn Nghymru anffyddiaeth. Pe byddai ambell un yn mhlith y genedl yn cael ei nodi allan, fel yn tueddu i'r cyfeiriad amheugar, byddai un felly yn eithriad. Mae y Cymry, fel cenedl, yn lân oddiwrth y drwg hwn. Nid oes llenyddiaeth anffyddol yn y wlad. Ni adwaenir yno awdwr anffyddol. Ni welir sill o hysbysiad anffyddol yn y papyrau. Am hyny, ni cheir y bobl yn ymbalfalu yn y tywyllwch am achos mawr gwreiddiol y greadigaeth; nac yn y boen ar ansefydlogrwydd sydd yn canlyn hyny. Ni welir yno sarnu pethau cysegredig, na thynu lawr yr ysbrydol er ceisio dyrchafu y materol. Nid yw y llinell rhwng drwg a da yn aneglur. Nid oes yno awelon gau ddysgeidiaeth o bell yn gwywo blodau rhinwedd. Er mor orlifol anffyddiaeth mawr gwledydd cyfagos, mae dylanwad crediniol Cymru yn rhy gryf iddo; ac er iddo ymfwrw yn donau hyrddiol yn erbyn Clawdd Offa, ni ddaw yn mhellach.

Nid oes gan Babyddiaeth etifeddiaeth yn Nghymru. Y Babaeth, yr hon grefydd sydd mor boblogaidd yn Ffrainc, Germani, a bron yn holl wledydd y Cyfandir, y mae yn wrthodedig yn Nghymru. Methodd y llifeiriant Pabyddol ruthro dros y rhandir neillduol hwn. Methodd y ddrychiolaeth frith-wisgol gael gan yr hen genedl i'w mynwesu. Methodd y lledrith hûd-ddenu. Cofier ymdrech ofer Awstin Fynach.

Nid yw y tafarnau yn agored ar y Sabbothau yn Nghymru. Yn erbyn y drwg câs, fu yn gwneyd y fath niwed i grefydd a moesau, y mae y drysau wedi eu cau. Ni chaniateir iddo mwyach ddyfod i barlwr yr wythnos. Y drwg o yfed gwirodydd a gwlybyroedd meddwol eraill sydd yn ffynu yn barhaus yn Lloegr, a Sir Fynwy, ar y Sabboth, gedwir draw o Walia gyda braich gref, ac a llaw estynedig. Nid yw y diodydd peryglus yn boddi eneidiau dynion ar y dydd i fyned i'r arch. Ni chaiff y dydd cyntaf o'r wythnos fod yn ddydd olaf ei foesau. Ni cha y dydd y cyfododd Gwaredwr dyn o'r bedd, ei ddathlu a rhialtwch y cwpan meddwol. Ac nid dyna y cwbl. Y mae cadwraeth y Sabboth mewn ystyron eraill, mewn bri yn y Dywysogaeth. Y mae pleser-deithio ar y Sabboth yn beth anhysbys yn y wlad. Ni wneir arddangosiadau o angladdau, ac ni welir angladdau yno ar ddydd yr Arglwydd. Nid yw gwresogrwydd addoliadau crefyddol yn cael ei oeri ar y dydd Sabboth drwy daflu brwdfrydedd addoli i gyrddau practiso erbyn dydd yr Eisteddfod. Yn "nglwad y bryniau" ni welir neb yn myned allan i hela, nac i ddilyn unrhyw bleser-chwareuon ar y dydd sanctaidd.

Anaml y cyflawnir llofruddiaeth yn Nghymru. Peth tra anfynych ydyw fod Cymro o waed coch cyfan yn cael ei arwain i'r crogbren; a phan y dygwydd hyny, bydd arswyd yn cerdded trwy y genedl. O herwydd paham nid yw y bobl yn ofnus o'u gilydd yn yr ystyr hwn. Hyd yn nod pan yr adnabyddir person yn euog o ddrygau cyhoeddus eraill, ni amheuir ef fel yn meddu tuedd at lofruddiaeth. A hyn sydd yn cyfrif am garcharau gweigion amryw o'r Siroedd yn aml, ac am fenyg gwynion y barnwyr.

Ni cheir llawer camwri gwladwriaethol a pholiticaidd gwledydd gwareiddiedig eraill yn "ngwlad y gân.” Nid cyfreithiau mewn enw a geir yn y wlad, ond rhai mewn ysbryd a gwirionedd. Llwgrwobrwyaeth ni arferir yn y wlad. Y mae Seneddwyr Cymru yn annhraethol uwchlaw gwerth y pris hwnw. Yn wir y mae beiau o'r fath yn hollol ddyeithr i'r swydd urddasol. Yn ngweinyddiad y gyfraith drachefn, nid digon miloedd o aur melyn i agor y drws i droseddwyr ddianc o grafangau y llew.

Y mae Cymru yn rhydd oddiwrth lu o lwgr-feiau ac arferion cymdeithasol gwledydd eraill, heb eithrio Lloegr. Mae rhedegfeydd ceffylau, hap-chwareuon, chwareudai, a phethau o'r un natur, yn groes i chwaeth ac anianawd y genedl Gymreig. Nid yw yr enwau cysegredig tad a mam wedi eu llygru yn y fam-iaith.

Yn Nghymru, ni raid i wr dyeithr ymostwng i lanhau ei esgidiau (braint werthfawr), nac i waseiddio ei hun i wneyd dim o'r natur. Gellir bod yn sicr y bydd yr esgidiau gerllaw, yn lân ac yn loew yn y boreu. Ni bydd galwad chwaith am godi yn gymwys gyda y wawr. Ni cheir neb mewn gor-frys wrth ddilyn eu goruchwyliaeth. Ni fydd eisau i'r aradwr haner rhedeg ar ol yr aradr a'r ôg—caiff ryddid i gerdded yn mlaen yn hamddenol, dan chwibanu, neu fygu myglys, fel y dewiso.

Wrth ddisgyn i fanylu, mae rhagoriaethau nacaol di-rîf yn ein cyfarch yn mhob cyfeiriad, er nad ellir crybwyll yma ond am ychydig o honynt. Nid iawn ynwyf fyddai esgeuluso nodi tymheredd yr hîn, ac mor rhydd ydyw oddiwrth eithafion. (Mynegaf y pethau hyn er hyfforddiant Cymry Americanaidd.) Nid yw y taranau a'r mellt mor ddychrynllyd yn Nghymru ag ydynt yn America. Nid yw llais y daran mor graslyd, na gwib-fflachiadau y mellt mor bicellog a thrywanol. Gyda golwg ar ruthr-dymestloedd a cyclones, ni cheir hwy o gwbl yn y wlad. Ymddengys i mi fod y nwyau trydanol yn Nghymru yn fwy gwareiddiedig a llednais na'r nwyau gyda ni. Y mae gwahaniaeth annrhaethol eto yn ngwlawogydd y ddwy wlad. Yn lle brâs-wlaw, cur-wlaw, trwm-wlaw, fel yma, ceir yno wlaw tyner, maethlon, a ddisgyna yn fân-wlith ysgafn, esmwyth, ar bawb a phob peth, ac yn neillduol ar adar mân a llysiau. Gall hyd yn nod y gwybed hafol eiddilaf, gario yn mlaen eu camp-chwareuon yn ddirwystr ar adeg bwrw gwlaw, gan mor fwyn a thyner yr oruchwyliaeth. Mae y defnynau yma mor freision ac aml, nes y fflangellant ymaith holl eiddilod diniwaid, a pheri i bob aderyn ddianc i'r cysgodion. Byddaf yn ein gweled ni yma yn America yn gweithredu yn annoeth ryfeddol, wrth ffrystio ar excursions mawrion i weled y Niagara Falls, pan y mae Niagara Falls uwch, mwy a lletach, yn fynych wrth ein drysau yn y brâs-wlaw cawodog, ffrwd-lifol-a geidw draw bawb o fewn pellder moesgar. Myned ar excursions i weled y Niagara Falls yn wir!

A oes rhywun a amheua y pethau hyn? Os oes, y mae genyf dri chant a phump a thriugain o ddyddiau yn barod i dystio yn olynol i wirionedd yr hyn a ddywedais. A chredwyf pe bae y gecraeth amheugar yn haerllug, y byddai gwyneb a llygaid pob dydd erbyn deuddeg o'r gloch, yn gloewi gan sel ac eiddigedd dros wirionedd fy nhystiolaethau.

Nid yw y pontydd Cymreig yn cael eu diraddio trwy roi rhybudd pendant ar eu talcenau, na fydd rhyddid gyru drostynt yn gynt na cherdded, o dan ddirwy o ugain swllt, yr hyn o'i gyfieithu yw, byddwch dosturiol, da chwi, wrth y bont, canys y mae yn wanaidd iawn. I'r heolydd nid oes lle meddal na garw. Gall gwyr yr olwyn-feirch (bicycles), yn felltenawl gyflymu drostynt heb un tramgwydd. Y mae fod yr heolydd fel hyn, mewn cyflwr mor ragorol, wedi troi yn fanteisiol anghyffredin i gyfarfod angen teithio ar yr olwynfarch, sydd wedi dod mor boblogaidd trwy y wlad. Dywedai boneddwr wrthyf yn Casbach, D. C., fod ei fab ef yn myned yn aml i Gaerdydd ac yn ol mewn ychydig amser, ar yr olwyn-farch. Yn y Gogledd, drachefn, y mae llyfnder y ffordd yn galluogi y brodyr ieuainc selog, i fyned o Sir Gaernarfon, i bellafoedd Sir Fon, ar yr olwyn-farch, i'r Cymanfaoedd a'r cyrddau mawrion, a gwneyd y daith yn nghynt na'r meirch-gerbydau.

Bu bron i mi anghofio crybwyll un peth dymunol yn Nghymru, yn ffafr pregethwr dyeithr, sef y dull y telir ef. Nid yw yn arferiad gwneyd casgliad cardotol yn niwedd yr oedfa, ond telir y pregethwr yn anrhydeddus o drysorfa yr eglwys.

Cyn tynu y benod hon i derfyniad, dymunwn wneyd crybwylliad byr eto ar fater cau y tafarnau ar y Sabboth.

Wrth gynllunio y mesur, a hawlio iddo lwybr rhydd trwy ddau dy y Senedd, dangosodd Cymru elfenau moesol a chrefyddol uwchraddol, a theilwng o honi ei hun. O hyn allan gall sefyll ar fanlawr y mesur hwn a dweyd wrth Loegr uchelfrydig, "Dring i fyny yma;” ac y mae ganddi hawl i gyfarch cenedloedd eraill mewn modd cyffelyb. Ond nid heb ympryd a gweddi y caed yr yspryd drwg hwn (yfed yn y tafarnau ar y Sabboth) allan o'r Dywysogaeth dêg. Y mae yr effeithiau yn fendithfawr. Mae llawer oeddynt yn tori eu hunain a chyllyll, ac yn malu ewyn ar y dydd sanctaidd, yn awr yn eu pwyll. Buddugoliaeth ogoneddus a enillwyd, ac un a sicrhaodd fuddugoliaethau moesol a chrefyddol pwysig eraill.

Nodiadau

golygu