Naw Mis yn Nghymru/Wythnos yn Llanelli
← Gohebiaeth Farddol | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Pregethwyr a Phregethu → |
PENOD XV
Wythnos yn Llanelli
Wythnos hapus fu hono a dreuliais yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Cyd-deithiwn yno a Thalamus. Tarawsom ar ein gilydd yn ngorsaf Abertawe, a chefais ganddo wasanaeth deublyg, sef ymddyddan difyrus yn y trên, a chael fy introducio ganddo i gyfeillion yn Llanelli. Yr oedd efe yn darlithio yn y dref y nos Sadwrn hwnw. Wrth gwrs yr oedd yn rhaid myned i'r ddarlith, a rhoddai efe docyn yn fy llaw i'r pwrpas hwnw. Darlithiasai Thalamus droion o'r blaen i'r Llanelliaid. Buasai yn eu dwyn i gymdeithas ag ysbrydion rhamantus yr ysbrydolwyr, yr hyn garedigrwydd a wnaeth efe mewn llawer man arall, yn y blynyddau diweddaf yn Nghym. O'r diwedd, o angenrheidrwydd, daethai y bobl yn gynefin a'r gwrthddrychau dyeithriol hyny, fel pob peth arall, a rhaid oedd i Thalamus gael testyn darlith newydd. Ac yn awr yr oedd efe yn dod yn wr newydd, gyda thestyn newydd, ac â darlith newydd, i Lanelli. Yr oedd hon yn adeg tra nodedig yn mywyd darlithyddol Thalamus i mi ac yntau gydgyfarfod-sef ar derfyniad cyfnod darlith yr ysbrydion, a dechreuad cyfnod darlith newydd, ddynol.
Y testyn y tro hwn oedd "Penau a Gwynebau." Efallai nad allasai gael gafael ar destyn i siarad arno o flaen pobl, yn fwy cyfaddas er cynyrchu hunan-ymholiad yn eu plith, yr hyn sydd yn dra diffygiol yn mhlith gwrandawyr yn gyffredin. Yr oedd adsain yr hen ddarlith boblogaidd yn edliw i adsain yr un newydd hon, yn ymddyddan y bobl ar y diwedd. Teimlwn wrth wrando, fod Thalamus yn ddyn o gyrhaeddiadau cryfion ac ysblenydd, ac nid oeddwn heb dybied y gallasai efe droi ffrwd ei dalentau i weithredu ar bobl er dylanwadu arnynt mewn ystyron mwy budd-fawr.
Cyfrifir Llanelli yn dref hynod grefyddol. Mae yn amheus a oes un dref yn Nghymru mor grefyddol. Yr ydwyf yn dweyd hyn a chymeryd y safonau cyffredin i farnu, sef nifer y capeli, moesau a chymeriad cyffredinol y bobl. Mae gan yr Annibynwyr demlau heirdd ac eang yma, a'r Methodistiaid yn dilyn. Mae y Bedyddwyr ar eu huchelfanau yn Llanelli.
Foreu Sabboth, pregethais yn Calfaria. Eglwys newydd yw hon a hanodd yn ddiweddar o eglwys yr enwog Lleurwg. Mae eglwys ieuanc Calfaria ar y ffordd i lwyddo. Ymddengys fod y gweinidog, Mr. Griffiths, yr iawn ddyn yn yr iawn fan. Sonient am helaethu lled eu pabell, ac estyn cortynau eu preswylfeydd, trwy adeiladu capel newydd. Addolant yn bresenol mewn ystafell eang a fwriedir ei defnyddio yn vestry, wedi gwneyd y capel.
Yn hwyr y Sabboth, pregethwn yn nghapel eang Dr. Rowlands, yr hwn sydd briod â merch y diweddar Barch. Daniel Davies, D. D. (y dyn dall), a'r hwn sydd ewythr i'r adnabyddus a'r clodfawr Barch. H. O. Rowlands, M. A., Elgin, Ill. Yr oedd y gynulleidfa yn y capel hwn yn aruthrol fawr—y fwyaf y bum yn sefyll o'i blaen yn Nghymru. Teimlwn yn ofnus mewn gwirionedd wrth ddringo grisiau y pwlpud. Yr oedd y dorf fel coedwig dyn aml-gangenog, yn amgau o'm cylch o bob cyfeiriad, a'r gas-lights yn orlachar, fel y teimlwn fy modolaeth dan gryn bwysau wrth anturio llefaru. Wedi yr ymdrech hon, nid oedd sefyll i fyny ac anerch cynulleidfaoedd llai, ar nosweithiau yr wythnos, ond gwaith cymharol ysgafn.
Gweinidog efengyl pur gyflawn yn ddiau yw Dr. Rowlands. Ceidw i fyny urddas y weinidogaeth yn arddull ei bregethu, yn gystal ac yn ei fywyd a'i rodiad cyffredinol. Saif yn mhlith y dosbarth blaenaf yn yr ystyron pwysig hyn. Y mae efe yn teilyngu parch, ac yn ei gael yn gyffredinol.
Nos Lun yr oeddwn yn Seion, capel y Parch. J. R. Morgan, D. D. (Lleurwg). Hysbysid fi fod cynulleidfa fawr ganddo yntau ar y Sabbothau, yn gymaint ag erioed—er cynifer a ymadawsant o'r eglwys i ymffurfio yn eglwysi newyddion yn y dref. Y tro hwn yr oedd. y gynulleidfa yn barchus yr olwg arni, a chymedrol ei maint. Ymddangosai Lleurwg yn gryf, siriol a heinyf, bron fel cynt. Y mae meithder tymor ei weinidogaeth yn Seion, a pharhad ei ddefnyddioldeb a'i boblogrwydd yn dweyd llawer yn ei ffafr. Y mae gan y siriol Lleurwg natur ddynol ragorol. Mae ganddo galon fawr. Teimlir hyny yn ei gymdeithas. Mae ei bresenoldeb fel gwên heulwen. Mae yn caru ei genedl, ac yn neillduol bobl ei ofal. Bydd yr olwg arno ar yr heol yn lloni ysbrydoedd llwfr. Credwn fod yr elfen deimladol, garuaidd serchus, siriol hon yn elfen bwysig yn ei boblogrwydd. A pha ryfedd, oblegid mae yn elfen gydnawsiol iawn ag anianawd yr efengyl.
Y Parch. William Hughes yw gweinidog Bethel, Glan-y-mor, yn barhaus. Cefais oedfa yno. Yr oeddynt wrth y gorchwyl, er's misoedd, o adgyweirio y capel. Gwneid capel newydd bron o'r hen. Dysgwylid iddo fod yn barod ddechreu Ionawr, 1886. Yr oedd adranau gorphenedig o'r gwaith yn arwyddo y byddai y capel yn hardd a chyfleus ar ei orpheniad. Cyfrifid i'r treulion fod oddeutu deunaw cant o bunau. Yn y Parch. William Hughes ceir engraifft neillduol o un llwyddianus yn y weinidogaeth. A barnu yn ol y dull cyffredin, y mae ei lwyddiant gweinidogaethol nodedig yn ddirgelwch. Wrth esbonio poblogrwydd a ffyniant gweinidog yn gyffredin, cyfeirir at ryw ddoniau arbenig yn y person. Ond wrth esbonio ei fri ef, ni ellir cyfeirio at unrhyw ddoniau neillduol yn gor-ddysgleirio, ac hawdd eu canfod ynddo. Os edrychir am ddoniau llais, ni cheir ond parabl cystal a'r cyffredin; canys â genau cil-agored y llefara. Os dysgwylir cael ganddo feddylddrychau praff-aruchel, bydd y dysgwyliad yn ofer; tra nad yw porthi y bobl a phethau o'r fath yn un ymgais ganddo. Os mwyneiddiwch ysbryd a thynerwch teimlad fyddant yn wrthddrychau dysgwyliad ynddo, ceir yn lle hyny grasder parablol, a threm wyneb-sych. Os dysgwylir cael ynddo ryw gyfrwysder i drin a thrafod y bobl, ni ellir darganfod dim o'r fath. Yn sicr y mae llwyddiant Mr. Hughes, yn ol pob rheol gyffredin mesuroniaeth weinidogaethol, yn ddirgelwch. Ac eto, wedi ystyriaeth bwyllog, credwyf mai nid anmhosibl gweled i mewn i'r dirgelwch dyddorol hwn. Y mae Mr. Hughes yn wr hollol syml. Cynygiaf y deongliad a ganlyn o'i lwyddiant cyd-bwysedd. Nid oes yn ei wneuthuriad ef gyneddfau cryfion a gweinion wedi eu hieuo yn anghydmarus. Yn y rhan fynychaf, anghydbwysedd cyneddfau sydd yn cloffi pobl, ac yn peri aflwydd a dinystr. Nid ydym yn dweyd fod y cyd-bwysedd hwn a briodolir i Mr. Hughes, yn ei natur heb wybod iddo. Na, credwn yr ymhyfryda efe yn yr ymdeimlad o hono, ac yn ei weithiad allan yn ei fywyd cyhoeddus a chymdeithasol. Saif Mr. Hughes, gan hyny, yn engraifft nodedig o werth cyd bwysedd cyneddfau yn cael eu hymarfer yn briodol. Profir ynddo ef nad yw doniau dysglaer, arabedd, na phereidd-der llais, nac unrhyw gynhyrfus ddoniau yn hanfodol i lwyddiant yn y weinidogaeth. Yn y wedd hon, yn ogystal ac yn ei fuchedd ddifwlch a dianair, y mae efe yn deilwng o efrydiaeth ac efelychiad unrhyw weinidog ieuanc a amcana fod yn ddefnyddiol a llwyddianus.
Aelodau yn eglwys Bethel ydoedd Mr. Thomas Cadwgan Jones, Pittsburgh, Pa., a'i briod. Cyfarfyddais a llaweroedd yn holi yn barchus am danynt. Gelwais yn nhy merch iddynt, a chwaer i Mr. Jones.
Arweiniodd Lleurwg fi i gael golwg ar hen dref Llanelli. Y gwrthddrych hynotaf yn y parth hwnw ydyw hen eglwys y plwyf. Tu fewn i glawdd amddiffynol y fynwent, ymlapia yr hen eglwys rhag dylanwadau gwrthnawsiol oddiallan. Ceidw yn yr agwedd hon er deddf newydd y claddu. Y mae cynlluniad heolydd ac adeiladau yr hen Lanelli wedi gadael mwy o'u dylanwad ar adeiladau a chynlluniad heolydd y Llanelli newydd, nag y mae hen eglwys Llanelli wedi adael ar y capeli. Ychydig o ddelw yr hen eglwys sydd ar demlau newyddion y dref. Gwahaniaethant yn fawr oddiwrthi yn mhob ystyr.
Y prif fasnachwr yn Llanelli yw Mr. Wm. Thomas. Mae ei fasnachdy helaethfawr yn cynwys block anferth. Dirfawr synid fi wrth gael fy arwain trwy ei wahanol adranau. Ac eto, mae y perchenog cyfoethog yn hollol ddiymhongar. Gallasai yr anghyfarwydd dybied am dano fel dyn ysgafn cyffredin. Efe a gerdda oddiamgylch gydag edrychiad diniwed. Ymddyddaner ag ef, a bydd ei lais yn wanaidd a chrynedig. Bydd ei dremiad yn wylaidd. Ac eto, o dan y ffurf wladaidd yna y mae y cymwysderau masnachol dysgleiriaf yn llechu. Medr ymaflyd yn arddwrn masnach, a rhwydd gyfrif curiadau ei gwaed. Medr weled yn llawer pellach a chliriach na gwyr yr yspien-ddrychau a ddringant safleoedd uchel i dremio ar gwrs trafnidiaeth a marchnadoedd y byd. Y mae yn Llanelli amryw fasnachwyr llygad-graff, ond y mae William Thomas yn drymach na'r oll gyda'u gilydd. Y mae rhai o honynt yn teimlo hyny hefyd. Tra yr oeddwn yn ymddyddan ag ef, ymsyniwn am dano fel enaid y busnes mawr a wnelid o'i gwmpas: gwelwn y lle yn fyw fel cwch gwenyn, gan brynwyr a gwerthwyr prysurol, a rhyfeddwn at y ffaith mai y dyn hamddenol diniwed hwn oedd prif symudydd yr holl beirianwaith. Yr eglwys Fedyddiedig Seisnig sydd, er's amryw flynyddau, yn cael y fraint o'i fynwesu ef fel aelod. Braint fawr i'r eglwys hono ydyw hyny. Y mae yn rhyfeddol o haelionus. Mae ei galon yn agored at angenion crefyddol. Tra y mae ei roddion yn dywysogaidd o fewn cylch ei enwad ei hun, y mae yn cyfranu symiau mawrion yn fynych at achosion perthynol i enwadau eraill.
Yn Llanelli y cartrefa Gwilym Evans, gwneuthurwr y "Quinine Bitters." Gelwais yn ei gyfferdy ef. Dangosodd i mi ranau o'r busnes a garia yn mlaen. Pan y dangosai i mi y symiau tra mawr o arian y mae efe yn eu talu i berchenogion papyrau am hysbysiadau, yr oeddwn yn cael fy nharo gan syndod. Cefais ef yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair. Credaf fod Gwilym Evans yn gwir haeddu y gefnogaeth a dderbynia, yn gartrefol a thramor.
Yn eglwys Calfaria y mae brawd o ddiacon o'r enw Thomas Williams, dilledydd. Pan yn gwasanaethu yr eglwys hono deuais i gysylltiad ag ef, a dywenydd. mawr i mi ac yntau oedd y cyd-gyfarfyddiad, canys yr oeddym gyfeillion cynes gynt yn Porthmadog. Yr oedd efe yn un o'r brodyr hyny a ymadawsant o Seion ar adeg sefydliad eglwys Calfaria. Nid yn aml y cyfarfyddir a brawd mor selog a brwdfrydig.
Dysgwyliaswn gyfarfod a'r brawd John Rees, Minnesota, yn Llanelli, ond er fy ngofid, yr oedd wedi dychwelyd i America er's rhai wythnosau. Gwelwn un tebyg iawn iddo ef yn ei frawd, a thebyg iddo hefyd yn ei natur dda garedig.
Mae marchnad Llanelli, ar nos Sadwrn, yn werth ei gweled, o'r hyn lleiaf, yr oeddwn i yn teimlo hyny pan yn rhoddi tro ar nos Sadwrn trwyddi. Dymunol oedd gweled y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Wrth sylwi arnynt, yr oedd llawer o bethau yn dod i'r meddwl. Ymsyniwn mor haelfrydig yw rhagluniaeth fawr y nefoedd yn ei rhoddion i ddyn. Effeithiol ar fy nheimladau oedd gweled y merched gyda basgedi yn y farchnad yn prynu at angenrheidiau y Sabboth; ac yn neillduol wrth weled hen boblach gynil ddarbodus yn nesu yn mlaen i brynu. Gwelwn fod yr hwn sydd yn gofalu am adar y to yn ffyddlawn i'w addewid iddynt.
Gelwais yn Llwynhendy. Derbyniwyd fi yn groesawus gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. R. D. Roberts. Pan yn pregethu, eisteddai o dan y pwlpud, ond yn gwynebu ataf. Rhoddai hwyl fawr i mi, a dilynid ef gan eraill. Un rhagorol yw am helpu y llefarwr. Ei gynulleidfa ef oedd y fwyaf y bum yn ei hanerch ar noson waith yn holl Gymru. Dywedir fod Mr Roberts yn parhau yn ei boblogrwydd gartref ac oddi cartref. Yn y cyrddau mawrion, yn agos a phell, prin fod neb mor boblogaidd. Yn niwedd yr oedfa, estynai anwyl fam y Parch. Charles Davies, Lerpwl, ei llaw ataf, yr hyn a barai i mi londer ysbryd pan ddeallais pwy ydoedd. Gwerthfawr genyf oedd cael o gymdeithas Mr. Roberts, y gweinidog. Ymddangosai yntau yn foddhaus anarferol pan yr adroddwn iddo fel y cofiwn am dano ef a'i gydymaith, y Parch. John Jones, Llanberis, yn dod i'r Garn, pan oeddynt yn dechreu pregethu, dros ddeugain mlynedd yn ol.
Y Felin-foel oedd le arall y bum. Profodd y vestry yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa a ddaethai yn nghyd. Gan hyny, rhaid oedd myned i'r capel, a chapel ardderchog ydyw, o gynlluniad y Parch. Henry Thomas. Mae y Parch. John Jones, y gweinidog, yn llenwi cylch pwysig. Efe ydyw golygydd Seren Cymru. Rhoddir gair da iddo fel pregethwr galluog ac areithiwr medrus-ddawn. Cryna y parsoniaid pan y byddo efe yn llefaru ar wladyddiaeth. Yr oedd oddi cartref yr wythnos hono, yn berwi y wlad trwy siarad ar faterion etholiadol.
Mae gan y Bedyddwyr eglwys lewyrchus yn y Pwll, rhwng Llanelli a Pembre. Y gweinidog ydyw y Parch. J. Y. Jones, yr hwn fu gynorthwywr i'r Parch. A. J. Parry, yn Abertawe. Saif efe yn uchel fel pregethwr ieuanc. Synwn wrth weled yno gynulleidfa mor fawr ar noswaith yr wythnos.
Deil yr eglwys yn Pembre ei thir yn bur dda ac ystyried amgylchiadau y lle. Y gweinidog yw y Parch. W. E. Watkins.