Naw Mis yn Nghymru/Y Fordaith a'r Glaniad
← Rhagdrefnu i'r Daith, ac yn Cychwyn | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn Lerpwl a Sir Gaernarfon → |
PENOD II.
Y Fordaith a'r Glaniad.
Yr oedd "yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod," wrth i ni fyned o olwg tir hawddgarol America. Pruddaidd yw colli golwg ar dir pan byddo cysgodion y nos yn ymledu. Bydd yr olygfa oddiallan yn dwyshau ofnus hiraeth y meddwl. Gwrthweithir y dylanwad nosawl pruddaidd hwn mewn rhan gan sirioldeb y goleuadau glanol. Gwasanaetha y goleudai yn benodol er dyddanwch fforddolion y moroedd. Tranoeth agorodd amrantau y wawr arnom ar ddydd yr Arglwydd. Er siomiant i amryw, ni chaed moddion gras ar Ꭹ Sabboth cyntaf hwn; yr oedd fod cynifer yn gleifion, a'r cadben ei hun heb fod yn iach, yn sefyll ar y ffordd. Modd bynag, wedi hir gythlwng, y Sabboth canlynol caed moddion crefyddol i bawb yn y caban. Darllenai y cadben lithiau Eglwys Loegr o'r Common Prayer; a chwareu teg i'r Common Prayer, yr oedd yn wir flas-
us y tro hwn. I chwyddo y mawl, chwareuai boneddiges yn fedrus ar y berdoneg. Ar ddiwedd yr addoliad gwnaed casgliad at drysorfa Cartref Morwyr Methedig yn Lerpwl. Yr oedd ein calon yn dyner ynom yn yr oedfa foreuol hon, a dygai y brawd John Rees dystiolaeth gyffelyb. Profem fod y "newyddion da" trwy gyfrwng y Llyfr Gweddi Cyffredin, fel "dyfroedd oerion i enaid sychedig."
Gan ein bod yn son am y Common Prayer, esgusoder ni am gyfeirio at un peth ynddo y tybiwn y buasai yn dda ei wella. Nid yw enw yr Arlywydd, yn lle y Frenines, yn swnio yn gyson iawn, nac fel yn ffitio yn dda. Nid yw y bwlch a dorodd yr Americaniaid yn muriau y weddi ymerodrol hon wedi ei drwsio yn gelfyddydgar. Nid yw y trwsiad yn gydffurf â'r rhanau amgylchol. Gweddïir ar ran y Frenines am iddi gael oes hirfaith, ac ar iddi wedi hyny gael mynediad helaeth i dragywyddol wynfyd. Ond wrth ddymuno yr un peth i'r Arlywydd, nid yw mor sicr, canys peidia efe yn fuan a bod yn Arlywydd, ac efelly bydd allan o gyrhaedd y gweddïau hyn. Dyma engraifft nad yw dillad Shon Bwl yn ffitio f' Ewythr Sam.
Ar y cyfan, mae mordeithwyr yn dduwiolach ar y môr nag ar y tir. Er hyny rhaid addef fod duwioldeb llawer ar y cefnfor i raddau helaeth dan reolaeth y tywydd, ac am hyny mae yr hin-fesurydd yn ogystal dangoseg o'r naill ag ydyw o'r llall.
Wrth gyfeirio at wrthgiliadau crefyddwyr newyddddyfodol, arferir dweyd am rai, iddynt golli eu crefydd ar y môr; ond nis gallaf gredu fod y dybiaeth yna yn gywir, canys fel rheol cydiant yn gryfach ynddi yn nghanol tonau y Werydd nag arferol. Mae yn eithaf posibl y ceir rhai yn dechreu llacio eu gafael ynddi wrth ddod i mewn i dawelwch y porthladd; ac efallai ambell waith pan ddaw y pilot i'r bwrdd. Ond fod neb yn colli ei grefydd ar y môr, prin y credwn hyny. Byddai llawer o'r amser yn cael eu dreulio gan y golygon i helwriaeth llongau. I'r pwrpas hwn aent yn fynych ar hynt yn mysg y tonau. Ceid boddhad nid bychan weithiau wrth graff-sylwi ar longau a welid yn fymrynau symudol yn y pellder aneglur, ond byddai y mwynhad yn fwy wrth weled rhai yn cyflymu heibio yn agos, gan ddweyd mewn iaith fanerawl, "Wele ni.”
Pwy fydd eich cymdeithion sydd fater tra phwysig wrth groesi, ac eto bydd yr hyn fydd eraill i chwi yn ymddibynu bron yn hollol ar beth fyddwch chwi iddynt hwy. Heblaw hyn bydd y môrdeithwyr yn gyffredin yn dyfod yn wrthddrychau o ddyddordeb. Ni fu Mr. Evans na minau yn brin o gysur cymdeithasol. Difyrid ni weithiau wrth sylwi ar gymeriadau diniwed yn mhlith teithwyr y steerage. Gwrthddrych dynol a fu yn destyn ein hefrydiaeth fwy nag unwaith ydoedd gymeriad digrifdrem a welem o draw, druan o hono ! Ymddilladai yn blethawl drwchus, fel ar gyfer ystorm gref. Ei gotiau a fotymasid yn ddigoll hyd yr ên. Fe allai fod yr arferiad o wisgo ei hunan fel hyn ar bob tywydd, yn wers a ddysgasai tymestloedd bywyd iddo. Neu, ynte, fe ddichon fod ofn y môr yn ei flino, ac yntau yn ystyried yn ddoeth iddo i fod yn barod bob amser ar gyfer y gwaethaf.
Mr. Fitzgerald, offeiriad Pabaidd, oedd foneddwr y daethom i adnabyddiaeth agos ag ef. Ymddyddanai â ni yn rhydd ac yn ddirodres. Ymataliem rhag ei aflonyddu pan welem ef ar adegau neillduol yn gwefusoli ei wersi crefyddol. Wedi i'r adegau hyn fyned heibio, ail-gydiai gydag yni yn mhen llinyn yr ymddyddan. Pan y rhoddai i ni yn achlysurol ofyniadau mewn perthynas i'r genedl Gymreig, rhoddai ei hunan mewn ystum i dderbyn atebion, tybiem, fel yn y gyffesgell, wrth wrando cyffesiadau ei ddysgyblion. Ymestynai yn mlaen ei ên a gwaelod ei wyneb, gan ddweyd wrthym, "Yes, yes, I understand it."
Mr. Willy, o gerllaw Oshkosh, Wis., oedd gymeriad arall y cawsom lawer o fwynhad yn ei gyfeillach. Ystyriem ef yn ddyn pur gall, cymedrol ei olygiadau a'i eiriau yn ymddangos fel yn ofalus fod seiliau da i'r hyn a ddywedai. Ar y cyntaf nid oedd Mr. Evans yn ei hoffi, ond erbyn y diwedd efe oedd y goreu o bawb, bron, ganddo.
Ni ddylwn anghofio Mr. Lawson, yr hwn ydoedd Sais, a gweinidog gyda'r Cynulleidfaolwyr yn nghymydogaeth Manchester, ac wedi bod ar ymweliad byr â'r Talaethau, a pharthau o Canada. Cawsom ef yn gydymaith tra difyr; ond tybiem am dano nad oedd yn gywir bob amser yn ei fynegiadau am bersonau a phethDaliasom ef amryw droion yn dra phell oddiwrth yr hyn oedd wir. Na cham-ddealler ni; ni phriodolemau unrhyw egwyddor fwriadol anwireddus iddo, ond yn hytrach ryw duedd ddiniwed at fod yn rhy barod i roi sicrwydd ar y pwnc dan sylw, a'r sicrwydd hwnw yn mhell o fod yn gywir.
Dyn ifanc pur nice oedd hwnw o ddinas New York, yn myned i gael golwg ar ddyddorion Prydain Fawr.
Yr oeddym oll yn canmol swyddogion y llong, yn neillduol y cadben a'r purser; yr hen wr a ysgubai y deck a fawr hoffem. Dywedai wrthym iddo fod yn ngwasanaeth y cwmni am 32 o flynyddau. Hen wr parchus yr olwg arno ydoedd, a rhoisom swllt yr un iddo ar ein hymadawiad. Mynych yr aem at ein cyfaill John Rees i gael ymgom, ac yntau atom ninau.
Tynwyd sylw pawb un boreu gan long suddedig, yn y pellder. Ffynai pryder yn ein plith am ei thynged. Ni wyddid eto nad allasai rhai dynion fod yn glynu wrthi. Erbyn agoshau ati, deallwyd mai hen long ddrylliedig oedd, wedi cael ei gyru, efallai, gyda'r tymestloedd fil o filldiroedd. Y tonau yn achlysurol a olchent drosti. Barnem, pe yn nos, y gallasai ein llong fyned yn ei herbyn a chael niwed. Wrth ei gadael o'n hol edrychai yr hen long yn druenus, yn codi ac yn gostwng yn hollol at drugaredd y tonau. Teimlem braidd ein bod yn angharedig wrth ei gadael felly yn ddiamddiffyn.
Treuliasom lawer haner awr yn ymsyniol i edrych ar lafur caled yr ager-beiriant. Teimlem ambell dro duedd gofyn i'r awdurdodau am roddi iddo ychydig seibiant. Swynol yr oedd ei gleciadau yn dweyd yn barhaus, "Myn'd tua Chymru, myn'd tua Chymru."
Wrth agoshau at dir Iwerddon, mawr oedd yr awydd am weled tir; ac O! mor ddymunol oedd cael y drem gyntaf arno yn ngoleu y wawr, er mai tir y Gwyddel ydoedd. Ein prif waith y dydd canlynol oedd manwl sylwi ar lanau yr Ynys Werdd-yr adeiladau gwynion―y meusydd teg, a'r tyrau amrywiol. Tua haner dydd yr oeddym yn hwylio heibio i oleudy mawr ar graig fechan yn y môr. Oddiyno pellebrid i Lerpwl fod y City of Chester wedi pasio.
Gerllaw Queenstown cyfarfyddwyd ni gan agerfad i gymeryd oddiwrthym y mail ac amryw o'r teithwyr. Yr oeddym yn teimlo yn ddwys orfod ymadael â'r teithwyr, yn neillduol a rhai o honynt, ac yn eu plith Mr. Fitzgerald, yr offeiriad Pabaidd. Yr oedd yno lawer o ffarwelio a chwyfio cadachau.
Tua deg o'r gloch hwyr y dydd hwnw yr oeddym yn ngolwg goleudy ar lanau Cymru, i'r dehau i ni. Wrth hwylio yn mlaen deuem i ganol nifer o longau yn myned i bob cyfeiriad, yn groes-ymgroes, a phob un yn pelydru allan ei goleu arwyddol. A dyna wau yn wibiog trwy eu gilydd yr oeddynt, nes yr ofnem yn wir y dygwyddai gwrthdarawiad rhyngom a rhai o honynt. Methwn adnabod y goleudy yn awr yn mhlith goleuadau y llongau hyn. Pe buasai y chwareufa oleuadol hon wedi ei threfnu yn bwrpasol i greu argraff arnom, tybiem nad allasai fod yn fwy synfawr.
Gyda gwawr boreu dranoeth dyma Gymru yn gwneyd ei hymddangosiad, yn gwisgo niwlen lâs sidanaidd dros ei gwyneb hardd, megys i haner guddio ei theimladau tyner wrth gyfarfod â'i phlant o wlad bell-neu ynte i arfer gwyleidd-dra priodol wrth gyfarfod â thyrfa gymysg.
Wedi gwylio yn bryderus nes cael yr olygfa yna, gyda hyn rhedwn yn frysiog i lawr risiau y caban, gan longyfarch y teulu fod tir Cymru yn y golwg, a’u mwyn orchymyn i brysuro fyny i'r dec. Buan y deuwyd i'r lan; ac ni allaf ddarlunio eu boddhad wrth weled tal fynyddau yr Eryri am y tro cyntaf erioed.
Pe gofynid i ni am ddarluniad byr, cyfunol, o'r fôrdaith, buaswn yn ei dosranu yn dair rhan gyfartal, a dywedwn fod y rhanau yn dwyn nodweddau y tri rhinwedd Cristionogol. Wrth fordwyo y mil milldiroedd cyntaf, y gwaith mawr oedd meddu ffydd yn y llong, ac yn llwyddiant y fordaith; ac wrth wneyd yr ail fil yr oedd cyrhaedd y lan draw yn fater o obaith cryf; a pheidier rhyfeddu fod y rhan ddiweddaf yn cael ei nodweddu gan gariad, wrth agoshau at wlad mor ddymunol.
Cawsom fôrdaith gysurus ar y cyfan. Er nad oedd fawr cynhwrf yn y dyfroedd dyfnion, eto yr oedd y brawd W. M. Evans, druan, yn dyoddef y dyddiau cyntaf yn dra thrwm yn benaf oddiwrth glefyd y môr, a'm teulu inau, lawer diwrnod, yn gruddfan o dan effeithian yr un clefyd. Yr oedd tipyn o eiddigedd yn ffynu yn mhlith y cleifion a nodwyd, wrth weled golygydd y Wawr mor rhydd oddiwrth y clefyd môrawl. Ceid ef yn gyson yn dilyn y prydiau bwyd.
Pan gyrhaeddasom enau afon Lerpwl, yr oedd y llanw allan, ac ni allai y City of Chester fyned yn mhellach nes i'r llanw ddod yn y prydnawn. A rhag ein gadael i ddysgwyl am oriau, daeth agerfad bychan i gymeryd y caban-deithwyr i'r dref. Pan oeddym wedi gadael y City of Chester, gan gychwyn i fyny yr afon, edrychem yn edmygawl ar y llong fawr a'n dygasai dros y môr yn llwyddianus—diolchem iddi—canmolem hi, a rhagluniaeth fawr y nefoedd. Glaniasom Medi 1af, wedi môrdaith agos i ddeg o ddyddiau.