Naw Mis yn Nghymru/Yn Abertawe
← Pregethwyr a Phregethu | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn Sirhowi a Tredegar → |
PENOD XVII.
Yn Abertawe
Daethum i Abertawe gan ddysgwyl cael y dref yn dwyn nodwedd Seisnig estronol; yn debyg fel y mae Caerdydd a Chasnewydd. Modd bynag, nid hir y bum yn y dref heb deimlo fy mod wedi mawr gamsynied. Yn lle bod y dref yn ymarweddu mewn agwedd ddyeithriol felly, canfyddwn ei bod yn Gymreig garuaidd. Ceir ynddi lawer o siarad Saesoneg, mae yn wir, ond mae teimlad ac ysbryd y dref yn Gymreig. Pan y deuais i gysylltiad deimladol gyntaf ag ysbrydiaeth Gymreig Abertawe, cofiaf yn benodol mor fwyn-ddymunol y teimlwn. Profwn y chwaon Cymreig o'm cylch yn debyg i leddf awelon cyntaf gwanwyn. Tybiaswn yn sicr fy mod yn ei anadlu, nes ymloni o honwyf. Boddhawyd fi a'i swyn gyntaf ar y brif heol, yn y lle diweddaf y gallesid dysgwyl iddo wneyd ei hun yn hysbys i mi. Canys yn y parthau hyny y mae yr elfenau Seisnig i'w dysgwyl yn eu rhwysg mwyaf. Wedi y profiad cyntaf hwn, dyfal-wyliwn arddangosion cyffelyb fel y symudwn yn mlaen, ac yr ymwelwn â pharthau amgylchynol. Gwnaethum hyn yn benaf er cael prawfion fod yr unrhyw ysbryd Cymreig yn perthyn i'r dref yn gyffredinol. Ofnwn ar y cyntaf rhag y dygwyddasai i'r teimlad hapus droi allan yn ffug, trwy i mi ganfod nad oedd yr ysbrydoliaeth Gymreig neillduol y tybiaswn ei darganfod yn ddim amgen na rhyw fath o anianawd lleol, neu ffrwyth dychymyg ymrwyfus. Ond ni chadwyd fi yn hir yn ngafael yr ofn annymunol hwn. Canfyddwn wrth ymlwybro o honwyf, fod y cyfryw drydan yn mhob man lle yr elwn yn y dref. Wrth fyned i lawr i gyfeiriad y post office, adnabyddwn ei nodau ef. Gwelwn nad oedd dyfodiad i mewn na mynediad allan y llythyr-godau a holl estronol fusnes y byd a'r lle yn ei wyntyllu ymaith. Pan arweinid fi gan gydymaith caredig tua chymydogaeth gorsafau y cledrffyrdd, ceid yr hylif nawseiddiol yn y manau hyny drachefn.
Yn ein cwrs elem ar hyd heol glodfawr y Walter's Road, ac heibio yn arafaidd i'r anedd-dai gorwych a geir o bobtu; yno hefyd yr oedd yr ysbrydiaeth a ddenasai fy serch. Yn uwch i fyny eto, pan y'm caed yn rhodio yn hamddenol yn yr hwyrddydd ar hyd rhodfeydd pleserus, gan syllu ar y dref islaw, a'r cyffiniau morawl, yr oedd y chwa Gymreig a deimlaswn, yn cyfarch fy ngreddf-deimlad. Ac ar y Sabbothau, ynte, yr oedd presenoldeb yr unrhyw hylif yn ddiamheuol. Tua chapel Bethesda, yr oedd fel pe buasai pob cyneddf a feddwyf yn ei fwynhau. Yn nghymydogaeth yr Albert Hall a'r hen eglwys blwyfol fawr gerllaw, ac wrth fyned ar hyd heol y Bellevue, ac heibio capel Bellevue yr ydoedd bodolaeth yr elfen Gymreig yn dra theimladwy; ond yn y capeli yr ydoedd amlycaf. Yn awr, cawswn fy hun mewn adnabyddiaeth wirioneddol o anianawd ysbryd Abertawe, a'm llwyr waredu oddiwrth halogrwydd ac anghywirdeb fy syniadau Seisnig blaenorol. Gyda fy mod wedi cyrhaedd y raddfa hon yn fy ngwybodaeth o Abertawe, dyma ymofyniad yn cyfodi yn fy meddwl, o ba le y cawsai y dref hon y nodwedd werthfawr hon a berthynai iddi. Cymellai amryw dybiadau eu hunain i mi fel esboniad ar y cywreinbeth. Un dyb yw, mai dylanwad yr elfenau Cymreig cryfion yn y cymydogaethau cylchynol ydoedd achos elfen Gymreig y dref. Tyb arall a darawai hwnw yn ol, yw, fod elfenau Cymreig yn cylchynu trefydd eraill yn gyffelyb, na feddent un nôd arbenig o Gymreigyddiaeth. Gyda hyn cynygia syniad arall ei hun, gan awgrymu mai gwrthdafliad y natur Gymreig ydoedd yn erbyn gorbwysau elfenau Seisnig a fygythiasent y dref ryw dro. Teimlaswn ar y cyntaf fod graddau o gywirdeb yn y dybiaeth olaf; ac eto ni allaswn gael fy hun i edrych ar y posiblrwydd o'r fath wrthsafiad fel digonol achos i nodwedd mor werthfawr. Deallwn hefyd fod yr iaith Saesneg ac arferion Seisnig yn uchel eu safle yn y dref, yr hyn a orbwysai y dybiaeth fod y chwaeth Gymreig wedi buddugoliaethu ar y chwaeth Seisnig. Tybiwn, eto, mai effaith morwriaeth Gymreig ydyw yn ymdywallt yn barhaus i'r porthladd, gan gludo swynion Cymreig o wahanol barthau o Gymru, a hyny yn raddol wedi sefydlu i fod yn gymeriad i ysbrydiaeth y dref. Nid oeddwn foddlawn ar un o'r tybiadau crybwylledig fel esboniad digonol ar y mater. Yna ymsyniwn, pwy o ddynion mawrion dylanwadol a allasent fod yn cyfaneddu yn Abertawe pan oedd y dref eto ond lle cymarol fychan, ieuanc a dibwys, ac i'r cyfryw roddi nôd arbenig ar nodweddau Cymreig y dref. Chwilio a wnaethum. Methwn daraw ar neb, rywfodd, yn ddigon mawr a dylanwadol. Yr oedd amryw o gewri diweddar yn ymgynyg i'r meddwl-cewri a adawsant eu hol ar Abertawe er daioni; ond er hyny ni allasent hwy fod wrth wraidd y nôd Gymreig hon, am nad oeddynt bresenol yn ddigon boreu. A thra yn ymsynio yn fyfyriol am hyny, dyma y Parch. Joseph Harris (Gomer), yn ei ffurf Gymroaidd, yn dod megys yn sylweddol o'm blaen. Yr oedd ei ymddangosiad mor deimladwy a phe gwelsid cyfaill hoffus yn dyfod yn ddisymwth, a neb yn ei ddysgwyl. Dyma yr esboniad ar y dirgelwch, ebai fy enaid ynwyf. Nawsiai deigryn i'm llygaid pan y presenolodd ef ei hun i'm meddwl, a'm calon a leddfai gan dynerwch parchusol i'w natur Gymreig Gristionogol glodfawr ef. Yn ddibetrus yr wyf yn coleddu y syniad mai yr enwog Gomer a roddodd i Abertawe ei chymeriad a'i hysbryd Cymreig.
Daeth y Parch. Joseph Harris (Gomer) i Abertawe am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1796, y lle a fwriadasid iddo gan ragluniaeth Duw i fod yn faes ei lafur ac yn orphwysfan i'w lwch. Gwasanaethodd yr eglwys Fedyddiedig yn Heol Gefn yn ddifwlch, er anrhydedd mawr iddo ei hun a'r eglwys o dan ei ofal. Bu yn llwyddianus i godi yr achos o ddinodedd i gyflwr llewyrchus a llwyddianus; ac yn benaf ar sail ei lafur ef saif yr eglwys heddyw, o ran cymeriad parchusol ar flaen y rhes yn mhlith eglwysi y cyfundeb yn y Dywysogaeth. Trwy ei ymdrechion, efe a lwyddodd i gael nifer o foneddigion a chyfeillion eraill i ymuno ag ef i gyhoeddi newyddiadur yn y Gymraeg, y cyntaf o'r fath yn yr iaith Gymraeg. Felly dydd Sadwrn, Ionawr 1, 1814, y daeth allan y rhifyn cyntaf o Seren Gomer, neu Hysbysydd Wythnosol Cyffredinol dros holl Dywysogaeth Cymru. Heblaw hyn, yr oedd ei gynyrchion llenyddol yn amrywiol a lluosog, a'r cwbl yn amcanedig i ddyrchafu ei gydgenedl mewn gwybodaeth, moes a chrefydd. Efe a wasanaethodd ei genedlaeth mewn modd rhagorol; cododd ynddynt ymofyniad am wybodaeth gyffredinol; dysgodd iaith eu hen deidiau iddynt, ac ymlidiodd o'u plith y bwbachod a'u brawychent ddydd y nos. Bu farw ar y 10fed dydd o Awst, 1825, yn 52 oed. Nid oes amheuaeth nad marwolaeth ei anwyl "Ieuan Ddu" fu yn achlysur o farwolaeth Mr. Harris. Arddangosir teimlad ei galon friw yn darawiadol iawn yn y penill hwn:
"Marw'm John roes ystyr geiriau
Gwell na holl eirlyfrau'r llawr;
Gofid, galar, o ran ystyr,
Sy'n dra eglur i mi'n awr;
Calon glwyfus, chwerwedd enaid,
Dwys ochenaid chwerw hynt,
Dagrau heilltion, coll cysuron,
Hiraeth calon-gwn beth y'nt."
Ac wrth derfynu "Galar Tad ar ol ei Unig Fab," dywedai fel y canlyn:
"Bellach, Ieuan bach, 'rwy'n tewi,
Rhag i'm meithni feichio'r wlad;
Tewi allaf, ond d' anghofio
Llwyr anmhosibl yw i'th dad;
Ti ge'st deimlo eithaf angau,
'Chydig ddyddiau o'm blaen i;
Buan daw y wys i'm cyrchu
Ar dy ol o'r anial du."
"Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Prawf o hyn a gafwyd yn y parch mawr a chyffredinol a dalwyd i goffadwriaeth yr anfarwol "Gomer," gan ddynion o bob cyfenwad crefyddol, ac o bob graddau mewn dysg a dawn a meddianau trwy Gymru a Lloegr.
Tra y cydnabyddir i "Gomer" adael argraff ddofn o ragoriaethau ei natur Gymreig ar holl Gymru, diau yr addefir iddo adael argraff lawn mor ddofn ar dref Abertawe, lle y bu efe yn llafurio yn benodol gyda y fath dderbyniad a pharch. Fy marn bersonol ydyw mai ei ddylanwad daionus a Chymreig ef ar drigolion Abertawe a gyfrif am yr ysbrydiaeth nawsiol Gymreig a gyniwair trwy y dref heddyw.
Bu fy arosiad yn Abertawe dros ddau Sabboth—un Sabboth a dreuliais i wasanaethu eglwys Bethesda, a'r llall eglwys Bellevue. Wrth sangu cynteddau Bethesda, meddienid fi gan deimlad o bwysigrwydd arbenig y lle. Mae yr argraff a geir oddiwrth y diaconiaid a'r blaenoriaid yn tueddu yn yr un ffordd. Teimlwn ddweyd fel Jacob gynt, "Mor ofnadwy yw y lle hwn, nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Mae capel Bellevue yn llawnach, ond yn llai capel o lawer. Gwisga yr achos yma olwg lewyrchus anghyffredin o dan weinidogaeth felusaidd a gofalus y Parch John Lewis. Anaml y ceir un gweinidog yn deall ei bobl yn well nag efe. Wrth gyd-gerdded ag ef ar hyd yr heolydd, gwelwn fod ei foes-drem a'i gyfarchiadau amneidiol yn berffeithrwydd bron. Gwnaethai ddefnydd da o'i eiriau. Arweiniodd fi ar ymweliad ag amryw o deuluoedd ei eglwys. Cefais drwy hyn fantais i gael golwg ar sefyllfa amgylchiadol llawer o drigolion Abertawe, ac hefyd i wybod mewn rhan, nodau aelodau yr eglwysi.
Cefais fy moddhau yn fawr yn fy ymweliadau ag Abertawe. Bu derbyniad yr eglwysi yn bob peth allaswn ddymuno; ac ymddygiad caredig unigolion yn fwy na'm dysgwyliad, yn neillduol yr hybarch Enoch Williams, gynt o'r Garn, a gweinidog poblogaidd Bellevue. Ond y brif elfen yn fy moddineb yn Abertawe oedd ei hysbryd Cymreig dihafal.