Naw Mis yn Nghymru/Yn Mynwy a Manau Eraill
← Yn Llanymddyfri a Rhandirmwyn | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Yn y Gogleddbarth → |
PENOD XXXII.
Yn Mynwy a Manau Eraill.
Cefais gwrdd yn vestry yr hen Nebo enwog, Ebbw Vale. Dringais trwy ymdrech i fyny risiau uchel y pwlpud hen ffasiwn.
Ysgrifenodd y Parch. William Jones, y gweinidog, erthyglau tra dyddorol yn ddiweddar i Seren Gomer, ar y Puritaniaid a'r Bedyddwyr.
Treuliais Sabboth yn Brynhyfryd. Gwelwn y cyfnewidiadau yn ddirfawr; yr hen adnabyddion wedi myned, a haner y moddion Sabbothol yn Saesoneg. Y Parch. Leyshon Roberts yw y gweinidog yn bresenol.
O'r lle hwn y daeth y brodyr rhagorol, y Parch. D. J. Nicholas (Ifor Ebbwy), a Mr. Joseph Aubrey (Cynfal), i America; ond brodor o Abergwaen yw Ifor. Cryn lafur a gefais i fyned dros y mynydd, trwy yr eira mawr i Llangynidr. Cychwynwn o Cenedl. Bu y derbyniad yn wresog. Edrychai y rhanbarth hono o'r wlad mewn dillad gwynion yn ardderchog.
Bum yn Blaenafon am ychydig oriau. Ni chefais amser na chyfleustra i weled hen ffryndiau a pherthynasau personau yn America, megys y brodyr Evan W. Davies, Daniel Davies, a Thomas Davies, Carbondale, Pa., ac eraill.
Gelwais yn Pisgah, ar y ffordd i Pontypool.
Ar y ffordd o Lundain i Ddeheudir Cymru, gwelwn olwg ddyeithriol ar y Saeson gwerinawl yn y gorsafoedd. Pan oeddwn yn nesâu at gyffiniau Cymru, teimlwn fel yn dyfod adref.
Yn Casnewydd gelwais heibio y Parch. Timothy Thomas, cyn-weinidog Cefn Bassaleg. Deil efe a Mrs. Thomas i edrych yn bur dda yn eu henaint.
Gerllaw iddynt mae preswylfod y Parch. E. P. Williams, Cwmbrân gynt. Siarsiai efe arnaf ei gofio yn garedig at y Parch. Theophilus Jones, Wilkesbarre, Pa.; ас yr oedd amryw drwy Gymru yn ceisio eu cofio ato ef. Daeth y Parch. Mr. Williams gyda mi i dy y Parch. Evan Thomas. Parotoi yr oedd efe erbyn y Sabboth. Byr fu fy arosiad. Gwelswn ef yn flaenorol yn Risca. Dyna bregethwr yw efe! Mae llanw ei boblogrwydd yn ddi-drai.
Yn Caerphili, gelwais yn nhy y Parch. Wm. Evans, fu yn Paris a Youngstown, O. Gwasanaetha fel curad Eglwys Loegr. Cwyno yr ydoedd mai anfynych yr oedd galwad am ei wasanaeth.
Gweinidog yr eglwys Fedyddiedig yw y Parch. J. P. Davies. Y mae efe yn feddyliwr gwreiddiol, ac yn llenor gwych.
Pregethwr poblogaidd neillduol yw y Parch. R. Lloyd, Casbach. Y mae galwad cyson am ei wasanaeth yn y cyrddau mawrion yn agos ac yn mhell. Yn Saesneg y pregethwn yn Casbach, a rhyfeddwn glywed pawb yn siarad a mi yn y diwedd yn Gymraeg.
Da iawn genyf oedd cyfarfod a Dr. Davies, Llywydd Athrofa Hwlffordd yn Abertawe, ac ar ol hyny gartref. Bu ef yn gyfarwyddwr ffyddlawn i mi a'm cyd-fyfyrwyr; ac felly y mae wedi parhau i'r myfyrwyr olynol.
Gelwais yn Ystylfera ychydig wythnosau cyn i'r gweithfeydd sefyll. Nid oedd un cysgod dyddiau tywyll ar feddwl y Parch. C. Williams, y gweinidog, na neb arall y pryd hwnw. Cefais gipdrem ar Aberhonddu. Ar fy ffordd i'r Gogledd, yn ddiweddol, cefais fwynhau cymdeithas yr adnabyddus a'r clodfawr, y Parch. Edward Matthews, Ewenny, am rai oriau wrth gyd-deithio yn y trên yn nghyfeiriad Mont-lane. Dyna ddyn trwm yw efe !