Naw Mis yn Nghymru/Yn Nghwm Rhondda
← Hwyrddydd gydag Arwystl | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Adeg Etholiad → |
PENOD VII.
Yn Nghwm Rhondda.
A oes gan natur gelfi aredig? Gellir tybied fod ganddi. Mae ffurf gul hirfain cymoedd Cymru fel yn arwyddo hyny. Ymddengys y cymoedd yn dra thebyg i rychau a dorasid gan ryw aradr anferthol. Fel rheol, nid yw y cwysau yn union a threfnus; yn hytrach y maent fel rhychau bras a wneir mewn tir a fo newydd a garw. Cymharol fychain yw rhychau cymoedd Cymru. Gwyddai perchen yr aradr nad oedd yno le i gwysau llydain dyffrynoedd cyfandirol. Am hyny, amlygir cynildeb a darbodaeth yn ffurfiad arwynebedd y tir. Mae pob craig, mynydd a bryn, dyffryn a dôl, wedi eu lleoli yn gryno anghyffredin. Y mae Cwm Rhondda yn ei ffurf hir-gul, yn edrych fel rhych aradr. Gwnaeth natur ddefnydd da o'i haradr wrth agor cwys y Cwm cyfoethog hwn. Er mai cul ydyw, mae terfynau eang i fasnach y glo a gludir o hono, ac y mae nifer y bobl a ymfudant oddiyno yn lluosog, a'u gwasgariad yn mhell.
Ar fy ymweliad a'r Cwm, gelwais yn gyntaf yn Ponty-pridd. Ymddangosai Pont-y-pridd yn naturiol, heb lawer o gyfnewidiadau mewn ffordd o adeiladu. Mae yr hen bont fwäog dros yr afon yn edrych mor heinyf ag erioed, ac fel heb war-grymu odid i ddim.
Mae y Parch. E. Roberts, D. D., yn dal i edrych yn raenus a siriol. Mae yr eglwys o dan ei ofal yn dra llewyrchus a llwyddianus, a phawb, yn agos ac yn mhell, siarad yn barchus am Dr. Roberts. Pleser mawr i mi oedd cael ei gymdeithas werthfawr, ac aros yn ei dy dros ddwy noson. Mae ganddo breswylfod hyfryd yn agos i Drefforest. Gwrthddrych hardd ydyw gweinidog da yn byw mewn ty da.
Yn Pont-y-pridd y preswylia y Parch. B. Davies, cyhoeddwr Hanes y Bedyddwyr, gan y Parch. Joshua Thomas. Gwnaeth Mr. Davies wasanaeth gwerthfawr i'w enwad trwy ail gyhoeddi y gwaith anghydmarol hwnw, a dylasai gael gwell cefnogaeth. Gelwais gydag ef. Mae ganddo fasnach argraffu ar raddfa pur helaeth. Mae papyr wythnosol Seisnig, a'r Herald Cenhadol yn cael eu cyhoeddi ganddo. Tynid fy sylw gan fychander y swyddfa. Dau anedd-dy cysylltiol ydyw, a drws mewnol yn agoryd o un i'r llall. Y mae gorfodaeth i ddefnyddio y ddau dy hyn; mewn rhan at wasanaeth teuluol, yn ychwanegol at waith argraffu, rhwymo llyfrau a phacio, yr hyn sydd yn peri anghyfleustra, ac yn cyfyngu terfynau y swyddfa. Ceid pawb yn y swyddfa yn dra phrysur-y peiriant argraffu yn llafurus drystio mewn ystafell fechan yn y cefn; chwech neu saith o bersonau yn or-brysur yn ystafell fach y ffrynt; y gweddill yr un mor brysur yn ystafell fach ffrynt y ty arall. Dywedai Mr. Davies wrthyf fod prinder lle yn peri anghyfleustra dirfawr iddo, ac eglurai mai cynydd annysgwyliadwy busnes oedd yr achos na fuasai ganddo adeilad mwy eang a chyfleus fel swyddfa. Diau fod llawer swyddfa argraffu eangach a mwy cyfleus yn Nghymru, ond meiddiaf ddweyd nad oes yr un swyddfa yn yr holl Dywysogaeth yn cael ei rhedeg gan berson mwy crefyddol, uniawn a thirion, na Mr. Davies.
Yn ngorsaf cledrffordd y Taff Vale, Pont-y-pridd, ar brydnawn Sadwrn, yr oedd y tyrfaoedd pobloedd yn awgrymu i fy meddwl fod poblogaeth y rhan hono o'r wlad yn fawr iawn, a'r fasnach yn anferthol.
Cyn gadael Pont-y-pridd, dymunwyf grybwyll i mi gymeryd y pleser o alw, tra yno, gyda mab i'r gweinidog enwog, y diweddar Barch. James Richards. Cwynai iddo amser yn ol fod yn anffortunus, trwy fyned o dan gyfrifoldeb arianol, dros eraill, ac iddo ef a'i briod golli bron bob ceiniog a feddent. Modd bynag, dywedai iddo hefyd, wedi hyny, fod yn ffortunus, trwy ddarganfod ffordd ratach nag eraill i wneuthur canwyllau (yr hon alwedigaeth a ddilyna,) ac oblegid hyny i gael mantais ar eraill yn y farchnad, trwy allu gwerthu yn rhatach. Ymddangosai y ddau yn bresenol yn bur siriol a chalonog er yr holl golledion a gawsant wrth ffafrio eraill.
Mae yr eglwysi yn Nghwm Rhondda, o Bont-y-pridd i Blaen-y-cwm, yn lluosog a llwyddianus. Pan wnaed cyfrif yn ddiweddar o rif y gwahanol enwadau yn y Cwm, yr oedd cynulleidfaoedd y Bedyddwyr yn rhifo oddeutu tair mil yn fwy na chynulleidfaoedd yr un enwad arall ar y Sabboth y gwnaed y cyfrif. Treuliais Sabboth dedwydd gyda'r eglwys yn Nebo, Ystrad, lle y mae y Parch. Anthony Williams yn weinidog. Mae yr eglwys dan ei ofal mewn cyflwr iachus, capel ardderchog, cynulleidfa pur fawr. Gwneid ymdrech neillduol y flwyddyn hono i leihau y ddyled ar y capel. Treuliais Sabboth hefyd gyda'r eglwys yn y Porth. Mae yno gapel hardd, eang a chyfleus, a chynulleidfa fawr-yn ddigon i ddychrynu pregethwr gwanaidd i sefyll o'i blaen. Ond y maent yn wrandawyr rhagorol, yr hyn sydd yn help mawr i'r llefarwr.
Mae Treorci yn ganolog yn Nghwm Rhondda, o ran lleoliad a dylanwad. Mae "Noddfa " Treorci yn ganolog. Saif yn ymgorpholiad o lawer o gynllunio. Mae gweithio mawr yn, ac wedi bod erddo―y casgliadau yn llawer; y cyrddau yn lluosog-y cwbl yn gofyn amser maith i draethu am danynt, heb ddisgyn at fanylion. Y prif symudydd offerynol yw y gweinidog. Mae ei allu cynlluniol yn nodedig, ac hefyd ei allu i gario allan ei gynlluniau. Ni esgeulusa y plant. Pregetha yn aml i'r plant. Dosbartha ei weithwyr-rhydd i bob un ei waith, ei amser, a'i le. Y mae meddwl y gweinidog yn ei waith. Mae yn gwneyd yr eglwys yn destyn myfyrdod; am yr eglwys y llefara; dros yr eglwys y dyoddefa. Mae golwg gweinidog arno; mae ganddo lais gweinidog. Edrycha ar ddynion yn grefyddol. Amcana gael dynion yn grefyddol; pregetha iddynt i'r dyben hwnw; bedyddia hwynt i'r dyben hwnw, a derbynia hwynt i'r eglwys i'r dyben hwnw. Dywedaf eto fod Noddfa Treorci, yn noddfa mewn gwirionedd. Cafodd llawer mewn perygl y ty hwn felly. Pwy ddywed faint y clod sydd ddyledus i hoff weinidog fel Mr. Morris? Pa ryfedd fod y Beibl yn traethu ar y swydd o weinidog yn bwysig? Pan mae y swydd yn cael ei hymarfer yn briodol, oni aroglir ei pherarogledd? Rhyfedd fel y mae pethau yn casglu o gylch y dyn yn gydnaws a'r dyn. Hyn sydd ogoneddus, fod nodweddau personol gweinidog yn ddigon cryfion i godi dynion ato. Pan y mae y lluaws cymysgryw yn rheffynu eu dysgawdwr i lawr atynt hwy, y mae pethau yn alarus. Er i was Duw gadw safle uchel crefydd Iesu, rhaid ei fod yn wreiddiedig ynddi. Mae syniadau fel yna yn cael eu hawgrymu i'r meddwl wrth adfyfyrio nodweddau y gweinidog rhagorol, y Parch. W. Morris.
Y mae y Parch. Wm. F. Davies, Nanticoke, wedi dod o eglwys y Noddfa. Ac erbyn ystyried, y mae llawer o ddelw y tad ar y mab. Mae delw gweithgarwch gweinidog y Noddfa ar weinidog Nanticoke.
Hoffais weinidog Treorci yn Nghaerdydd, chwe mlynedd yn ol, pan y darllenai fynegiad un o'r cymdeithasau o dan nawdd yr Undeb. Parai ei ddull gofalus, ystyriol, i mi dybied fy mod yn clywed llais dyn Duw yn ei lais ef.
Pan oeddwn yn Treorci, yr oedd y Bedyddiwr Cymreig, yr hwn a gyhoeddid yno, ar drengu. Yr oedd yn gwaelu er's misoedd yn flaenorol. Bu y cynhwrf etholiadol y pryd hwnw, efallai, yn beth cynorthwy i estyn ei oes.
Ond yr oedd elfenau darfodedigaeth yn ei gyfansoddiad, ac yr oedd yn rhaid iddo gael marw. Credid yn nidwylledd amcan y brodyr da oeddynt yn ei gyhoeddi, ond profodd yr anturiaeth ddiffyg doethineb. Weithiau mae amlhau papyrau yn milwrio yn erbyn undeb, ac yn peri anfantais i gael un papyr o wir werth; felly y tro hwn. Eisiau gwella y Seren sydd. Gadael i'r newydd ymddadblygu o'r hen. Er pob diffygion, mae y Seren yn meddu rhagoriaethau-rhagoriaethau allant gynyddu; meddant flagur tyfiant.
Bum yn y Noddfa yn treulio Sabboth, a noson o'r wythnos. Hwn oedd y capel mwyaf y buaswn ynddo hyd yn hyn. Yr oedd y gynulleidfa yn fawr ar y Sabboth, ond nid cymaint, meddid, ag arferol. Yr oedd merch ieuanc yn pregethu y Sabboth hwnw yn nghapel yr Annibynwyr yn y lle, ac yr oedd yn llawer mwy poblogaidd na'r gwr dyeithr o America, yr hyn oedd heb fod yn ddymunol iawn i'w deimlad, fel y gellid barnu. Ond ymgysurwn trwy geisio perswadio fy hun i gredu mai prin y gallasai Mr. Spurgeon, pe yn y pwlpud, lwyddo i gadw y bobl rhag myned i wrando y bregethwres, gan mor boblogaidd ydoedd.
Boddhaus genyf fuasai cael mwynhau ychwaneg o gymdeithas Mr. Morris, y gweinidog, ond hyny nid oedd yn gyfleus, gan ei fod o gartref y noson waith, ac ar y Sabboth yr oedd yn glaf.
Y fath restr hirfaith, drwchus o gapeli sydd yn holl Gwm Rhondda, a chymeryd i mewn gapeli yr holl enwadau, y rhai ydynt yn dra lluosog, yn neillduol eiddo y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Cyfansoddant linell ardderchog o amgaerau (forts) i weithredu yn erbyn gwersylloedd yr un drwg.
Wrth i mi fyned i fyny ac i lawr y Cwm hwn amryw droion yn ystod dwy wythnos, yr oedd amryw bethau yn taro i fy meddwl mewn perthynas i'r bobl a'r gymydogaeth.
Y fath nifer mawr o drêns glo hirion a redant yn barhaus, ddydd a nos, yn nghyfeiriad Caerdydd. Y mae yr olygfa arnynt, i ddyn dyeithr, yn ymddangos yn wir synfawr. Gwna'r olygfa symudol symud y meddwl i ddyfalu i ba le y mae yr holl symiau aruthrol hyn o lo yn myned.
Golygfeydd nosawl rhamantus ydyw rhestrau hirfeithion y ffwrneisiau coke a ymestynant ar hyd waelod y dyffryn.
Yr oedd fy meddwl yn aflonydd gan chwilfrydedd yn aml wrth ddyfalu am sefyllfa tanddaearol y parthau hyny, pan y mae cymaint o lo yn barhaus yn cael ei gloddio allan. Dyfalwn fod y mynyddoedd a'r bryniau amgylchynol yn cael chwilota trwyddynt yn fwy trwyadl na'r meusydd pridd-dwmpathog gan y waedd.
Mae poblogaeth fawr Cwm Rhondda yn ymddibynu bron yn hollol ar y gweithiau glo am fywioliaeth. Mae y ffaith yn gorlenwi y meddwl a syn-fraw. Ni ellir peidio esgyn yn uwch na deddfau ansefydlog masnach, am sicrwydd bywioliaeth ddigoll i'r trigolion lluosog. Ac y mae amlder moddion crefyddol yno, fel yn profi fod tuedd esgyn felly i'r dyben hwnw yn cael ei deimlo gan y bobl yn dra chyffredinol.
Bu cryn holi arnaf yn y parthau hyn gan bersonau am berthynasau a chyfeillion yn America. Anaml yr elwn i dy na fyddai prawf yn cael ei roddi ar helaethrwydd fy ngwybodaeth am bersonau yr ochr draw i'r Werydd. A gellid yn rhesymol farnu fy mod yn gwneyd pob ymdrech rhag bradychu anwybodaeth mewn maes mor doreithiog; a chydnabyddwyf fod pob cynorthwy dichonadwy yn cael ei roddi i mi yn fynych gan holwyr, rhag fy nghael yn hollol amddifad o'r wybodaeth a ddymunid. Mynych ar yr heol yr oedd fy nghwrs yn cael ei fân-ddarnio wrth sefyll i ateb cwestiynau personau a feddent gysylltiadau teuluol yn cyrhaedd America bell. Er hyny, nid oedd darnio fy nghwrs yn darnio fy nhymer, ond yn hytrach yn ei gyfanu yn un cwrs o fwynhad wrth liniaru meddyliau pryderus ac ymofyngar. Yn niwedd yr oedfaon eto, yr oedd yr un dosbarth o bobl yn fy nghyfarfod. Rhai, efallai, a'm clywsent ar y pryd yn gwneyd cyfeiriadau at bersonau a phethau yn America, a thrwy hyny yn gloewi gan awydd clywed genyf am eu perthynasau a'u cyfeillion yn y gorllewin pell. Buasai yn foddhad mawr i mi allu cofrestru y tyrfaoedd ymofyngar hyn yn y llyfr hwn, ac yr oedd genyf fwriad ar y cyntaf i wneyd hyny, ond trwy iddynt luosogi i nifer aruthrol fawr, ofnais na fuasai genyf ddigon o le idd eu cynwys, a rhoddais i fyny y bwriad. Barnwyf, erbyn hyn, pe buaswn yn gwneyd gor-ymdrech i gael enwau a negeseuon holiadol a chofiadol pawb i mewn, y buasai yn anmhosibl i'r cyfeillion yn America ddod o hyd i'w cyfeillion yn Nghymru yn nghanol y fath nifer lluosog o bersonau a enwid.