Ni thrig awelon nef

O! Tyred i'n iacháu Ni thrig awelon nef

gan William Williams, Pantycelyn

O! Ysbryd sancteiddiolaf
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


253[1] Calon bur yn Deml i'r Ysbryd
66. 66. 88.

1 NI thrig awelon nef
Mewn dyfnder pydew cas;
Ni thrig cysuron neb
Mewn ysbryd heb dy ras:
Pur yw dy swydd, pur fydd dy le,
Fy Nuw, o fewn i'r ddaer a'r ne'.

2 O! Arglwydd, tyrd i lawr,
Gwna drigfan it dy Hun,
Gwna deml sancteiddiol fawr
O galon aflan dyn;
A thrig yn hon, fel Seion gynt,
Er pob rhyw dywyll stormus wynt.

3 Tra fyddwyf yn y byd,
Rho 'ngolwg ar y wlad,
Yr etifeddiaeth fry,
Pleserau tŷ fy Nhad,
A'r gwleddoedd maith sydd yn parhau,
Lle nid oes gofid, poen na gwae.

William Williams, Pantycelyn



Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 253, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930