O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd

O! agor fy llygaid i weled O! Fab y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd

gan George Rees

Mae haeddiant mawr rhinweddol waed fy Nuw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


231[1] Mab y Dyn
10. 4. 10. 4. 10. 10.

1 O! FAB y Dyn, Eneiniog Duw, fy Mrawd
A'm Ceidwad cry';
Ymlaen y cerddaist dan y groes a'r gwawd,
Heb neb o'th du.
Cans llosgi wnaeth dy gariad pur bob cam,
Ni allodd angau'i hun ddiffoddi'r fflam.

2 Cyrhaeddaist ddiben dy anturiaeth ddrud,
Trwy boenau mawr;
A gwelais Di dan faich gofidiau'r byd
Yn gŵyro i lawr ;
Ac yn dy ochain dwys a'th ddrylliog lef
Yn galw'r afradloniaid tua thref.


3 Rho imi'r weledigaeth fawr a'm try
O'm crwydro ffôl:
I'th ddilyn hyd y llwybrau dyrys du,
Heb syllu'n ôl.
A moes dy law i mi'r eiddilaf un,
Ac arwain fi i mewn i'th fyd dy Hun.

4 Tydi yw'r ffordd, a mwy na'r ffordd i mi,
Tydi yw 'ngrym :
Pa les ymdrechu, f'Arglwydd, hebot Ti,
A minnau'n ddim?
O! rymus Un, na wybu lwfwrhau,
Dy nerth a'm ceidw innau heb lesgáu.

George Rees

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 231, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930