O! Gariad na'm gollyngi i
← O! Am dreiddio i'r adnabyddiaeth | O! Gariad na'm gollyngi i gan George Matheson wedi'i gyfieithu gan David Tecwyn Evans |
Duw mawr y rhyfeddodau maith! → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
88[1] O! Gariad na'm Gollyngi.
8888. 6.
1.O! GARIAD na'm gollyngi i,
Gorffwysfa f'enaid ynot sydd:
Yr einioes roddaist, cymer hi,
A llawnach, glanach fyth ei lli
Yn d'eigion dwfn a fydd.
2.O! Lewyrch yn fy nghanlyn sydd,
Fy nghannwyll wan a rof i Ti;
A golau benthyg hon a fydd
Yn twnnu'n loywach, decach dydd,
Yn dy glaer heulwen Di.
3.O! Wynfyd pur a'm cais trwy fraw,
Ni allaf rhagot gau fy mron;
'R wy'n gweld yr enfys trwy y glaw,
Yn ôl d'addewid gwn y daw
Diddagrau fore llon.
4.O! Groes a gŵyd fy mhen, yn awr
Ni feiddiaf ddeisyf d'ochel Di;
Mi fwriaf falchder f'oes i'r llawr,
A thardd o'i lwch, â gwridog wawr,
Fy mythol fywyd i.
George Matheson, cyf. David Tecwyn Evans
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 88, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930