O! Golch fi beunydd, golch fi'n lân
← O! Arglwydd Dduw, 'r Hwn biau'r gwaith | O! Golch fi beunydd, golch fi'n lân gan William Williams, Pantycelyn |
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, rho dy wawr → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
249[1] Gweddi am Lanhad
M.S.
1 O! GOLCH fi beunydd, golch fi'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd;
Ddwylaw a chalon, ben a thraed,
Golch fi â'th waed yn ebrwydd.
2 Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân,
Fel tân pwërus nerthol;
Caiff ysbryd barn a llosgfa fod
Ar bechod yn wastadol.
3 Gwasgara weddill pechod cas,
Selia fi â'th ras yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn demel wiw,
Adeilad Duw ei Hunan.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 249, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930