O! Pryn y gwir, fy enaid, pryn
← Bydd di gysurus yn dy Dduw | O! Pryn y gwir, fy enaid, pryn gan Thomas Williams, Bethesda'r Bro |
Y rhai o dan dy gysgod, Iôn → |
475[1] Pryn y Gwir."
M. S.
O! PRYN y gwir, fy enaid, pryn,
Na werth ar un amodau;
O holl drysorau môr a thir,
Y gwir yw'r trysor gorau.
2 Y gwir fel gwregys, ar bob cam,
Yn dynn fo am ein lwynau;
Y gwir ei hun a geidw'n bron
Yn llon mewn gorthrymderau.
3 Rhy'r gwir im gysur dan y loes
Pan ddelo f'oes i fyny:
Daw hwn â'm henaid i'r pryd hyn
Trwy'r glyn dan orfoleddu.
Thomas Williams, Bethesda'r Bro
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 475, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930