O! Salem, fy annwyl gartrefle

Mae ffrydiau 'ngorfoledd yn tarddu O! Salem, fy annwyl gartrefle

gan Anhysbys


wedi'i gyfieithu gan David Charles (1803-1880)
Wel Grist yn dyfod ar y cwmwl draw
David Charles (1803-1880)

702[1] Hiraeth am Salem.

98. 98. D.

1 O! SALEM, fy annwyl gartrefle,
Mae d' enw'r pereiddiaf erioed :
Pryd derfydd fy llafur a'm lludded
O'th fewn mewn llawenydd a chlod?
Pa bryd y caf weled â'm llygaid
Dy byrth sydd o berlau mor ddrud,
A'th eurwych heolydd glân disglair,
A'th furiau sy'n sefyll o hyd?


2 Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd,
Pa bryd i'th gynteddau caf ddod,
Lle ni bydd cynlleidfa yn ysgar,
Na diwedd i'r Sabbath yn bod?
Dedwyddwch digymysg sydd yno,
Ni phrofwyd yn Eden mo'i ryw,
A llewyrch mwy tanbaid na'r heulwen,
Sef llewyrch o orsedd fy Nuw.

3 Mae yno gantorion soniarus,
A'u Ceidwad yw sylwedd eu sain;
A'm brodyr sydd yma cânt esgyn
Yn fuan i ganol y rhain :
O! Salem, fy nghartref anwylaf,
I'th fewn mae fy enaid am ddod ;
Ac yno fy llafur a dderfydd
Mewn cân orfoleddus a chlod.

—Anhysbys Cyfieithydd David Charles (1803-1880)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 702 yn Llyfr Emynau Y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930