O! Tyred, Ysbryd sanctaidd pur
← Nesa at fy enaid, Waredwr y tlawd | O! Anfon Di yr Ysbryd Glân gan William Williams, Pantycelyn |
Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni → |
244[1] Arweiniad yr Ysbryd.
M.C.
O! TYRED, Ysbryd sanctaidd pur,
Nertha 'mlinedig draed;
A rho i mi olwg olau glir
Ar hyfryd dir fy ngwlad.
2 Gad imi ado'r anial maith,
Gwlad galar, a gwlad gwae;
A myned rhagof tua'r tir
Sy â'i bleser yn parhau.
3 'R wyf fel y gwyliwr ar y mur,
Yn disgwyl, bob yr awr,
Am weld yn gwawrio Jiwbil fwyn
Fy muddugoliaeth fawr;
4 Pleserau'r ddaear wedi ffoi,
Pob chwantau i gyd yn un,
Heb un difyrrwch is y rhod
Ond Iesu mawr ei Hun.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 244, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930