O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn
← Agorwyd teml yr Arglwydd yn y Nef | O! Tyred, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn gan William Williams, Pantycelyn |
Fy enaid, ymorffwys ar aberth y groes → |
392[1] Gweddi am Gymdeithas â Duw.
11. 11. 11. 11.
1 O! TYRED, f'Anwylyd, fy Arglwydd yn ddyn,
Preswylia mewn temel a godaist dy Hun:
Dy lais sy mor beraidd, mor hyfryd dy wedd,
Dy olwg sy'n concro marwolaeth a'r bedd.
2 Boed imi'n hyfrydwch, o fore hyd nos,
Gael canu am gariad a chonewest ei groes-
Gogoniant ei Berson, rhinweddau pob gras,
Trwy boenau ofnadwy yn ennill y maes.
3 Gad imi gael heddwch, y perl sy'n fwy drud
Na meddiant holl India'r Gorllewin i gyd ;
Mae gradd o dangnefedd fy Iesu mor fawr,
Fe bwysa ei hunan y nefoedd a'r llawr.
—William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 392, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930