O! iechydwriaeth fawr
← Dewch, hen ac ieuainc, dewch | O! iechydwriaeth fawr gan Nathaniel Williams |
Caed trefn i faddau pechod → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
296[1] Bendithion Iechydwriaeth.
668. D.
1 O! IECHYDWRIAETH fawr,
A lifodd im i lawr,
Yn ffrydiau pur grisialaidd byw;
Maddeuant im a gaed,
A heddwch yn y gwaed,
O gariad rhad ein Tad a'n Duw.
2 'D oes unrhyw drysor drud
Fel Ef o fewn y byd;
Mae'n gwneud fy ysbryd llesg yn llon:
Mwy'n llawen byddaf byw
Yn noddfa bur fy Nuw,
Dan holl gystuddiau'r ddaear hon.
3 Mi dreuliaf oriau f'oes
Yn dawel dan y groes,
Ond im gael edrych ar dy wedd:
Perffeithrwydd pleser yw
Y wledd o gariad Duw,
Fy holl ddiddanwch i a'm hedd.
- Nathaniel Williams
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 296, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930