O! na chawn i olwg hyfryd

O! na allwn garu'r Iesu O! na chawn i olwg hyfryd

gan David Charles (1762-1834)

Ni all angylion nef y nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

221[1] Tywysog Bywyd.
88. 88.

1 O! NA chawn i olwg hyfryd
Ar ei wedd, Dywysog bywyd;
Tegwch byd, a'i holl bleserau,
Yn ei ŵydd a lwyr ddiflannai.

2 Melys odiaeth yw ei heddwch,
Anghymharol ei brydferthwch;
Ynddo'n rhyfedd cydlewyrcha
Dwyfol fawredd a mwyneidd-dra.

3 Uchelderau mawr ei Dduwdod,
A dyfnderoedd ei ufudd-dod,
Sy'n creu synnu fyth ar synnu
Yn nhrigolion gwlad goleuni.

David Charles (1762-1834)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 221, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930