O Arglwydd! ein Iôr ni, a'n nerth
Mae O Arglwydd! ein Iôr ni, a'n nerth yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
O Arglwydd! ein Iôr ni, a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd !
Dy enw a'th barch a roist uwch ben
Daear ac wybren hefyd.
Wrth edrych ar y nefoedd faith,
A gweled gwaith dy fysedd,
Y lloer, y sêr, a threfn y rhod,
A'u gosod mor gyfannedd.
Pa beth yw dyn it' i'w goffau,
O ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mab dyn yr un wedd
Lle rhoi ymgeledd cymaint ?
Ti wnaethost ddyn o faint a phris
Ychydig is angylion;
Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,
Rhoist arno brydferth goron.
Ar waith dy ddwylaw is y nef
Y gwnaethost ef yn bennaeth,
Gan osod popeth dan ei draed,
Iddo y gwnaed llywodraeth;
Defaid a gwartheg, holl dda maes,
A'r adar llaes eu hesgyll,
Ehediaid nef, a'r pysg o'r don
Sy'n tramwy'r eigion erchyll.
Arglwydd ! ein Iôr ni a'n nerth,
Mor brydferth wyt trwy'r hollfyd !
Dy enw a'th barch a roist uwch ben
Daear ac wybren hefyd.