O Arglwydd! erglyw fy llais i
Mae O Arglwydd! erglyw fy llais i yn emyn gan Edmwnd Prys (1544 - 1623)
O Arglwydd! erglyw fy llais i,
A derbyn weddi bruddaidd,
Pan godwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
Bendigaid fyddo'r Arglwydd nef,
Fe glybu lef fy ngweddi;
Yr Arglwydd yw fy nerth a'm rhan,
A'm tarian, a'm daioni.
Mi ymddiriedais iddo am borth,
A chefais gymorth ganddo;
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
A ganaf foliant iddo.