O Arglwydd dyro i'm dy ras

Mae O Arglwydd dyro i'm dy ras yn emyn gan Evan Jones (Ieuan Gwynedd) (1820 - 1852)

O Arglwydd dyro im' Dy ras,
I deithio tua'r wlad;
Rho imi gymorth dan bob ton
I gofio Tŷ fy Nhad.


I eglyws Crist derbyniwyd fi, -
Duw, nertha f'enaid gwan,
I lynu wrth y Groes o hyd
Nes dod o'r byd i'r lan.


Rho im' Dy lon gymdeithas Di,
A chadw fi o hyd
I rodio yn Dy lwybrau glân
Tra byddwyf yn y byd.


Rho nerth i ddilyn llwybrau'r praidd
Wrth deithio'r anial dir;
Nes delo'r awr im' ddyfod fry
I ddinas Salem bur.